Trevor Roberts

Ganwyd Trevor Roberts yn Llanharan yn 1940. Fe astudiodd offeryniaeth gerddorfaol a chyfahsoddi gyda Hubert Davies a David Wynne yng Nghaerdydd, ac mae’n cydnabod hefyd iddo dderbyn help gwerthfawr gan Wirold Lutoslawski yn Ysgol Hâf Dartington, Bu’n bianydd  i ymarferion Opera Genedlaethol Cymru o 1964-69, ac athro piano yng Ngholeg Prifygol Caerfyff, fel yr oed ar y pryd. o 1976-82.

Prif Gerdd Comisiwn:

Idyll i gôr SATB a llinynnau, y geiriau gan Alison Bielski. (Gwyl Abergwaun, 1975)

The Captivity i gôr SATB a phiano, y geiriau gan Alun Lewis (Coleg Prifysgol Caerdydd, 1976)

Three Offertories, i gôr SATB ac organ (Gwyl Abergwaun, 1981)

Flûte de Pan, i ffliwt a thelyn (Gwyl Abergwaun,, 1982)

Trois Promenades, i glarinet a phiano (Gwyl Gerdd Gogledd Cymru, 1983)

Your Pain shall be a Music, i lais uchel a thelyn, y geiriau gan Dylan Thomas (Gwyl Abergwaun, 1987)

Ivor Novello Fantasy, i ddeuawd piano (British Red Cross, 1993)

A Hymn of Thanksgiving, i gôr SATB ac organ, ar gyfer wythfed canmlwyddiant Eglwys Gadeiriol Tyddewi, yn Sir Benfro.

Cofio Dewi, i gôr SATB ac organ, y geiriau gan Dafydd Wyn Jones (Côr
Ieuenctid Cenedlaethol Cymru,2001)

Yn ddiweddar, dau ddarn gwreiddiol, a dau drefniant of ganeuon gwerin, o Gôr Meinion y Machlud, ym y Bontfaen.