Timothy Raymond

Astudiodd Timothy  Raymond gyfansoddi gyda John Lambert, ac Organ gyda  Ralph Downes, yn y Royal College of Music. Ennillodd wobrau am gyfansoddi, a chafodd ei waith cynnar berfformiadau drwy’r Society for the  Promotion of New Music. Wedi hynny, aeth ymlaen i fynychu dosbarthiadau meistr a chyrsiau byrion dan Humphrey Searle, Peter Maxwell Davies, Jonathan Harvey  a György Ligeti. Fel organydd, rhoddodd premiere y DU i Two Études for Organ Ligeti, ac ennillodd ysgoloriaeth ymchwil ac ysgoloriaeth organ gan Brifysgol Keele i ennill MA yn Ngherddoriaeth America. Wedi astudiaethau ym Mhrifysgol Reading, ennillodd Dystysgrif mewn addysg.

Mae cyfansoddiadau Timothy Raymond yn cynnwys prosiectau dramatig, cymunedol ac addysgiadol, yn ogystal a chyfres o weithiau siambr, a glywyd mewn neuaddau megis De Ijsbreker yn Amsterdam, y British Music Information Centre a’r Glasgow Royal Concert Hall. Cafodd darnau diweddar eu premiere gan y Paragon Ensemble yn yr Alban a’r PM Music Ensemble. Bu comisiwn hefyd i ddarn  i Gerddorfa Chwyth ac Offer Taro, gan Gonsortiwm Comisiynu’r Coleg Cerdd a  Drama, yn 2004. Ar hyn o bryd mae’n Bennaeth Cyfansoddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.