Bu Stephen Goss yn astudio gyda Peter Dickinson a Robert Saxton y y Royal Academy of Music, ac ym mhrufysgolion Bryste a Llundain. Perfformiwyd ei waith kewn sawl gwlad, a’I gyhoeddi yn yr Almaen, yr UD, a’r DU. Bydd Cadenza Music, Casnewydd, yn cyhoeddi rhan helaeth o’i gerddoriaeth siambr gyda hyn.

Cyfansoddodd Steve yn ddiweddar Gylch o Ganeuon Cerddorfaol i Jane Manning, a darn i Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Prydaim, a recordiwyd ei waith gan Decca, Conifer, Classics, Carlton Classics, a daeth ei Carmen Fantasy allan gan Hallmark Records yn 1999 – cafodd glod gan y beirniaid. Comisiynwyd yn ddiweddar ddarn ar gyfer dawns gyfoes i Wyl Ryngwladol Guildford, unawdiau i Allan Neave (gitar) a Graham Caskie (piano), ac In Parenthesis, gwaith rhyng-gyfryngol gyda’r artist Brian Dunce, ar waith y bardd Cymreig David Jones. Mae hefyd wedi gnweud mnifer o osodiadau o eiriau Dylan Thomas.

Fel gitarydd, mae wedi ennill Gwobr Julian Bream, a bu’n perfformio’n fyd-eang gyda’r Tetra Guitar Quartet, Jenevora Williams (soprano), a nifer o grwpiau cerdd gyfoes. Mae wedi darlledu ar BBC2, Radio 4, Radio 2, a Classic FM.

Daeth Steve yn aelod o adran gerdd Prifysgol Surrey ym mis Medi 1999 fel darlithydd mewn cyfansoddi, ar ol bod yn behhaeth cerdd academaiedd yn Ysgol Yehudi Menuhin.

s.goss@surrey.ac.uk

www.surrey.ac.uk/Music/Who/Goss.html