Stephanie Power

Ganwyd Stephanie Power yn Llundain yn 1965, ac mae cefndir cerddorol tra amrywiol ganddi. Astudiodd am dair blynedd fel "Junior Exhinitioner" yng Ngholeg Cerdd y Guildhall, ac yna ym Mhrifysgol Efrog. Graddiodd gydag Anrhydedd, Gradd Cyntaf, yn 1987. Unig bwnc ei hastudiaethau yn Efrog oedd cerddoriaeth gyfoes – er cryn tipyn o syndod i’r arholwyr! Yn ystod eu hamser yno bu’n gweithio yn broffesiynol yn chwarae’r gitar ac offerynnau taro, i ddechreu gyda Northern Music Theatre. Yn Efrog cyfarfu â’r soprano enwog Jane Manning, a’i gwahoddodd i ymuno â’i grwp newydd, Jane’s Minstrels.. Wedi graddio, bu Stephanie’n perfformio gyda hwy a chyda grwpiau cerdd gyfoes eraill, er enghraifft Icebreaker, Gemini, Lontano, ac Innenerklang. Bu hefyd yn llwyddiant fel gweinyddydd dros dro gyda Women in Music.

Yn 1990, cychwynnodd ar drywydd newydd, tra gwahannol efallai – aeth fel prentis at shaman frodorol Americannaidd, a threulio’r deng mlynedd nesaf yn dysgu’r grefft o chwarae’r drymiau shamanaidd. Symudodd i fyw yng Nghymru yn 1993, i gael ymroddi’n well i’r astudiaethau yma. Bu’n mentro hefyd tua’r adeg yma i fyd cerddoriaeth rock. Mae wedi cynnal "ysgolion rock" a gweithdai ysgrifennu caneuon pop ar hyd a llêd Dê Cymru, yn y DU, a thramor, ynghyd â dysgu offerynnol a gweithdai drymio shamanaidd.

Mae Stephanie’n byw yn ymyl y Fenni ers ymron i bum mlynedd. Wedi gorffen ei "phrentisiaeth", mae ‘nawr yn canolbwyntio ar gyfansoddi mewn sawl arddull "glasurol" a phoblogaidd, gan adlewyrchu ei phrofiad amryliw ei hun. Perfformiwyd dau ddarn yn ddiweddar, sef Dreamtides a Music for Cello and Piano yng Nghaerdydd, mewn gweithdy a chyngerdd gyda’r PM Ensemble. Chwaraewyd gwaith llawer mwy, gyda pherfformwyr byw a moddion electronig, yn y Coed Duon ar Gorffennaf 19eg, 2002, ffrwyth gwaith misoedd lawer mewn gweithdai ym Mwrdeisdref Caerffili,dan nawdd y PRS. Chwaraewyd ei Phedwarawd Llinnynol Rhif 1 gan aelodau o Chamber Domaine yn ddiweddar yn ystod Gwyl Gerdd Bro Morgannwg.