![]() |
![]() |
Ganwyd Rob Smith yng Ngorllewin Sir Efrog yn 1960, a graddiodd yn 1981 o Brifysgol Nottingham, lle bu’n astudio gyda Nigel Osborne. Ers hynny, bu’n gweithio fel cyfansoddwr, ar lwyfan, ac fel cyfarwyddwr cerdd. Mae wedi cyfansoddi ar gyfer ffilm, teledu a theatr yn ogystal â chyngherddau clasurol cyfoes a jazz. Ar hyn o bryd mae ganddo swydd fel Darlithydd Cysylltiol yng Ngholeg Prifysgol Bath Spa, ble mae’n dysgu ac yr archwilio ym maesydd Cyfansoddi, Cerdd Ffilm, Theatr Cerdd a Cherddoriaeth Gymunedol. Perfformiwyd ei waith gan London Sinfonietta Voices, Suoraan, Roger Heaton Group, PM Ensemble, Beatwywtem, Mary Wiegold, a The Heavy Quartet, ac mae’n byw yng Nghaerdydd ers 1983. |