![]() |
![]() |
Ganwyd Rhian Samuel yn Aberdâr ym 1944. Derbyniodd ei haddysg ym Mhrydain ac yn yr Unol Daleithau, ble bu’n byw o 1967 hyd 1984. Bu’n athrawes yn y St Louis Conservatory, St Louis. Wedi hynny, bu’n dysgu ym Mhrifysgol Reading, ac yna yn y City University yn Llundain, ble mae ‘nawr yn Athro Cerdd. Clywyd ei cherddoriaeth mewn sawl gwlad; mae hefyd wedi sgrifennu ar gerddoriaeth, ac ‘roedd yn gydolygydd y New Grove (Norton) Dictionary of Women Composers. Mae ei chyfansoddiadau yn cynnwys darnau o sylwedd, er enghraifft 'Elegy-Symphony' (1981, St Louis Symphony Orchestra, Leonard Slatkin), a 'Tirluniau/Landscapes' (BBC Proms, 2000). Testun llawer o’i darnau lleisiol yw byd a phrofiad merched, megis 'Clytemnestra' (1994, BBCNOW, Della Jones, soprano), 'The White Amaryllis' (1991, BBCNOW, Jane Manning, soprano) a 'Daughters' Letters' (1997, Sinfonia 21, Valdine Anderson, soprano). Cyfansoddodd Rhian Samuel llawer o gerddoriaeth siambr i offerynnau. gan gynnwys 'Dream-Images', a berfformiwyd sawl gwaith, i Martin Roscoe yng Ngwyl Machynlleth, 'Blythswood' i fiola a phiano, a dau ddeuawd piano, gafodd eu perfformiadau cyntaf yn y Purcell Room yn Llundain ar Chwefror 13 February, 2005. Cafwyd premiere y pedwarawd `Light and Water`, i biano a thannau, yng Ngwyl Hampstead a Highgate, yn Llundain, gan y Fidelio Quartet ym mis Mai 2004. Gwelwn gefndir Rhian fel rhywun sy’n chwarae offerynnau chwyth, yn ei darnau er enghraifft i bumawd chwyth Primavera, ac unawdau gyda chyfeiliant piano megis 'Songlines' (sacsoffon) and 'Shaping the Air' (obo), dau premiere yn y Bridgewater Hall ym Manceinion. Mae ei chaneuon yn cynnwys rhai i lais a phiano megis 'Cerddi Hynafol' (2001) a 'Nantcol Songs' (2003), gomisiynwyd un gan Wyl Abergwaun, a’r llall gan Wyl Llanandras, a darnau gyda cherddorfa, er enghraifft 'Daughters' Letters' (1996), gomisiynwyd gan Sinfonia 21, (arweinydd Martyn Brabbins), gyda Valdine Anderson, soprano, ym 1996, aeth ar daith drwy Loegr, ac yna ymhellach ymlaen ar daith yn yr Alban gyda Patricia Rozario a’r BT Scottish Ensemble, arweinydd Clio Gould,ym 2002. Un o’i darnau mwyaf adnabyddus yw 'The Hare in the Moon', i lais a phiano neu offer taro premiere yn St Louis ym 1978. Clywyd 'Before Dawn', o’r Cylch 'The White Amaryllis' (premiere yn Efrog Newydd ym 1989) sawl gwaith ar BBC3, ac yn ddiweddarach gyda Sharon Mabry, mezzo-soprano, a’r Nashville Symphony Orchestra, yn Nashville, Tennessee, mis Ebrill 2004. Clywyd 'Trinity: three songs for soprano, flute and piano', yn y Birmingham Conservatoire ym mis Mawrth, 2005. Cyhoeddir cerddoriaeth Rhian Samuel gan Stainer and Bell: gweler http://www.stainer.co.uk/samuel.html am ragor o wybodaeth. |