![]() |
![]() |
Ganwyd Peter Reynolds yn 1958. Bu’n astudio cerddoriaeth yng Nghaerdydd, ac yn y ddinas hon mae’n byw ac yn gweithio yn bresennol. Yn ystod yr 80au, fe ennillodd sawl grant i fynychu’r Dartington Summer School, lle bu’n astudio gyda’r diweddar Morton Feldman, ac ennillod Wobr Gyfansoddi Michael Tippett yn 1986. Fe gyd-sefydlodd y grwp gerddoriaeth newydd Ixion yn 1987. Yn fwy diweddar, ffurfiodd y PM Ensemble yng Nghaerdydd. Yn bresennol, mae’n gweithredu fel Cyfarwyddwr Artistig Gwyl Lower Machen, a Gweinyddydd Gwyl Bro Morgannwg.Fe berfformiwyd ei gerddoriaeth gan Bedwarawd Llinynnol Bingham, James Clapperton, Icebreaker, y Guildhall Strings, Pedwarawd Llinynnol Sterlin, Sharon McKinley, Charlie Barber + Band, Carlo Rizzi, Lesley Garret a’r PM Music Ensemble. Cafodd ei darlledu ar Radio 3, BBC Cynmru, a Theledu’r BBC. Yn 1993, cynnwyswyd ei opera The Sands of Time yn y Guiness Book of Records, fel opera fyrra’r byd (3 munud, 34 eiliad). Os am fwy o fanylion, neu i archebu recordiadau, sgoriau, a rhannau offerynnol, cysylltwch a: Peter Reynolds 029 2048 2183 (Tel/Ffacs) E-bost: Peter.Reynolds@pjr.demon.co.uk Gwefan: www.musicnow.co.uk/composers/reynolds.html |