![]() |
|
Ganed PAUL MITCHELL-DAVIDSON ym Mryste. Mae enw da ganddo fel
cyfansoddwr mewn arddull glasurol, mae’n cyfansoddi’n aml ar gyfer offeryniaeth
anarferol, megis Tapestry (gweler y rhestr gwaith) i delyn a mandolin, a Gaia i
bedwarawd sacsoffon, a thâp a luniwyd ar gyfrifiadur. Mae wedi cyfansoddi ymron
ym mhob maes,gan gynnwys simffoni, corawl, siambr a jazz. Mae’n gweithio yn y
cyfryngau, yn y theatr, mewn addysg (drwy waith yn y gorffenol fel cyfansoddwr
preswyl), ac yn y gymuned. Fel darlithiwr safon gradd mewn cyfansoddi, bu’n
weithgar ym Mhrifysgol Salford, ac amryw golegau eaill.
Cynhaliwyd cyngerdd er anrhydedd i’w gerddoriaeth ym 1995 yn y
RNCM, yn cynnwys 32 cherddor, deugain o gantorion, a thri arweinydd, a’r Apollo Saxophone
Quartet a’r Royal Northern College of Music Big Band. Bu cyfweliad gyda Paul Ers 1986 mae Paul yn breswyliedig fel cyfansoddwr gyda Gwyl Gerdd Standish. Bu hefyd yn breswyliedig am rai blynyddoedd gyda’r Library Theatre ym Manceinion. Ym 1999 ffurfiodd y Manchester Guitar Orchestra ar gyfer adran addysg yr Halle Concerts Society, cafwyd eu perfformiad cyntaf yn y Neuadd Bridgewater ym Manceinion. gwasanaethodd yn y gorffennol ar banel ymgynghorol i’r NWAA, a gweithredodd fel beirniad i wobrau cerddorol Bafta,ac hefyd i’r British Association of Symphonic Bands and Wind Ensembles. Cynhaliodd sawl gweithdy a dosbarth meistr yng ngogledd-orllewin Lloegr. SOUNDSCAPE - Arianwyd gan North West Arts Board, ysbrydolwyd gan waith yr STEAM - Comisiynwyd gan y GMC fel rhan o’r Great Railway Exposition. SONATA: UNAWD GITAR - Unawd sylweddol i gitar, y premiere gan Neil Smith yn y Purcell Room yn Llundain. THE LION AND THE DRAGON - Dilyniant i Gerddorfa Jazz, tâp, llais a zither A GOOD TIME WAS HAD BY ALL - Seiliedig ar gylch o gerddi gan Stevie Smith. ORIANA - Comisiynwyd gan yr Oriana Choir. Y geiriau gan feirdd o adeg y TURNPIKE SONATA - Comisiynwyd gan y Wigan MBC ar gyfer lansiad cyfres o
gyngherddau siambr yn y Turnpike Centre. PLANTAGENET VARIATIONS - Comisiynwyd gan The Orchestra of the Mill, y
premiere yng Ngwyl Standish. EARTHSONGS -Comisiynwyd gan Bury MBC. SONGBOOK - Comisiwn gan Neil Smith: unawd gitar. A SMALL DREAM OF A DANCE - Comisiwn gan yr Apollo Saxophone Quartet. Darn ysbrydolwyd gan Affrica. Aeth allan yn gyntaf ar yr albwm ASQ 'Bow Out' , yna ar t'Hot Lipped' gan y Kintamarni Saxophone Quartet. AFRICANA - Consierto i ddwy marimba. CHIONI - Comisiwn gan Live Music Now, yn premiere yng Ngwyl Gerdd Gyfoes SCENES FROM A CARNIVAL - Comisiwn gan yr Apollo Saxophone Quartet. Y
premiere yn y Royal Northern College of Music. ALL ABOUT LIONS - Comisiwn gan Eglwys Gadeiriol Manceinion. GAIA - Comisiwn gan Manchester Craft Centre. Cyfansoddwyd y darn gyda golwg ar gymeriad acwstig a phensaernïol y neuadd. Mae ar CD yr Apollo Saxophone Quartet': 'Bow Out.' ESSAY ON THE NAME CHARLIE 'BIRD' PARKER - I’r Apollo Saxophone Quartet. THE BESTIARY - Dilyniant â phedwar symudiad i gerddorfa jazz. Chwarewyd y darn yn gyfan yng nghyngerdd Paul yn yr RNCM. Ennillodd yr ail symudiad, 'The Snake' , wobr y Marty Paich Award ym 1993, a’i ddarlledu wedi hynny ar Radio’r BBC. A CHORUS OF INNER VOICES - Comisiwn gan yr Apollo Saxophone Quartet, y
premiere ar daith yn Siapan, gyda darllediad ar Radio 3. FANFARE - ALL LIT UP! - Comisiwn gan y Manchester Craft Centre, ddathlu seremoni agoriadol y Ganolfan. Darlledwyd ar Radio 3. TAPESTRY -darn sylweddol virtuoso, ar gyfer y chwaraewraig mandolin Alison
Stephens a’r telynor Lauren Scott. THRENODY, SONG FOR SARAJEVO -Cyfansoddwyd yng nghanol y rhyfel yn y cyn-Yugoslavia. Premiere yn y cyngerdd yn yr RNCM. Comisiwn gan Hildegarde
Ensemble. SPELLS, SIGILS AND TALISMANS - Comisiynwyd a pherfforiwyd gan Simone Rebello ar gyfer ei halbwm ym 1995. SOLILOQUY FOR TIM (AN URBAN DREAM) I Tim Redpath. THE BIG EASY - Atseiniau New orleans, i big band. A CHORUS OF INNER VOICES II - Comisiynwyd gan Bedwarawd Tubalate Quartet a chwarewyd yn fyw ar Radio 3. TOWARDS THE RISING SUN - Comisiwn gan Gyngor dinas Manceinion, premiere
fel rhan o gyngerdd yn Neuadd Bridgewater. CAPTAIN CORELLI - I Alison Stephens, chwareuwraig mandolin. SHOUTING ON SWAN STREET - Comisiwn gan The Band on the Wall. Darn awr o hyd i gerddorfa jazz, band tu ôl i’r llwyfan, a gospel choir, i ddathlu penblwydd The Band on the Wall yn 25. Premiere gan The Band on the Wall, ac yna yn Neuadd Bridgewater. Cafwyd adolygiad ffarfiol dros ben yn y Manchester Evening News. TUBAFICATION - Cyfansoddwyd i Tubalate. Daeth y darn hwn yn ddarn prawf yn yr International Federation of Tubists Congress yn UDA yn 2002. RHAPSODY FOR DUKE (Duke Ellington) - Commissioned by members of the Adelaide Symphony Orchestra. RHAPSODY FOR FRANK (FRANK ZAPPA) Cyfansoddwyd i’r Halle Manchester SPIRIT OF CHANGE - Comisiynwyd gan Adran Addysg yr Hallé. BEYOND THE RAINBOW'S END - Ar gyfer yr Halle Manchester Guitar Orchestra. NIGHT TRIPPER - Comisiwn gan y Burnley Jazz Summer School ar gyfer eu Prosiect Jazz Cyfoes. KINTAMARNI - Comisiwn gan y Kintamarni Saxophone Quartet. Seiliwyd y darn hwn yn fras ar y gamelan. Premiere yn yr RNCM. Arianwyd gan y North West Arts Board. Dyma wythfed pedwarawd Paul. JUEGO DE PASION - Comisiwn gan yr Apollo Saxophone Quartet, premiere ar eu taith yn y DU. Teyrnged yw hwn i Astor Piazolla. LOUISIANA - Consierto i bedwarawd Sacs ac offerynnau rhithwir (virtual ensemble). DOVESTONE - Consierto i fandolin a llinnynnau. I Alison Stephens. RAINSONG - I’r gitarydd rhyngwladol Craig Ogden. Consierto i gitar a cherddorfa. LULLABY FOR STANLEY - Unawd offerynnol. Cyfansoddwyd hwn i blentyn bach newydd-anedig y sacsoffonydd Andy Scott a’r delynores Lauren Scott. Chwe trefniant virtuoso o standards jazz ar gyfer y gitar clasurol. Ar gyfer albwm newydd Craig Ogden. 2006 - Cyflawni CD o gyfansoddiadau o gerddoriaeth draddodiadol y Seychelles. Prosiectau addysgol a chymunedol yn cynnwys: THE MOON AND THE FIREBIRD, darn amlgyfryngol sylweddol i offerynnau cymysg,
côr bychen, unawdwyr lleisiol, zither sineaidd a seiniau wedi eu recordio. RAIN, Prosiect ysgol am y ' Monsoon', y gwaith yn datblygu dros bum wythnos, yn diweddu gyda sesiwn recordio mewn stiwdio. Seiliwyd yn fras ar y gamelan. COMING HOME, Darn cymunedol o music theatre am ward yn ysbyty seiciatrig Prestwich, ym Manceinion. Wedi ei osod mewn dwy gylchfa amser. Perfformwyd yn y Prestwich and Whitefield Arts Festival gyntaf oll, gan ddefnyddio pobl o bob rhan o’r gymuned, yn ogystal a cherddorion proffesiynol. EARTHRITES, Darn sylweddol o music theatre, yn dathlu tref Burnley, nawr, yn y
gorffennol, ac yn y dyfodol, mewn geiriau a cherdd. Cymerwyd rhan gan bum
ysgol, Burnley Brass Band a’r South Pennine Singers. JACK IN THE GREEN, Dawns a meim, yn dathlu hen chwedl bywyd, marwolaeth a
dadeni Jack in the Green, “dyn gwyrdd” yr hen baganiaeth. Cymerwyd rhan gan
nifer fawr o fyfyrwyr o Bury College, o adrannau cerddoriaeth, drama, a chelf
weledol. Prosiect chwe wythnos, yn diweddu gyda pherfformiad cyhoeddus. THE BRANDY OF THE DAMNED - Drama gymnedol gyda cherddoriaeth, i ddathlu
canmlwyddiant sefydlu’r Musicians' Union. Perfformiwyd fel rhan o ddathliadau
canmlwyddiant y Musicians' Union, ac fel rhan o ddathliadau Manchester City of
Drama. THE MONKEY RUN - Comisiwn ar gyfer darn sylweddol awyr agored i’r gymuned, yn cynnwys pobl Blidworth a Rainworth. Paul oedd y cyfansoddwr a’r arolygwr cerddorol. Crewyd gan y Western Area Arts Project ynghyd â’r New Perspective Theatre Company. Hyrwyddwyd ac ariannwyd gan BT, East Midlands Arts Board, North Nottinghamshire Rural Projects Fund a Nottinghamshire County Council Rural Action. THE MEDIA MAGIC CARPET RIDE - Cyfansoddiad a threfniant ar gyfer cyngerdd
'Children of the Dales' yn y Grassington Festival, gyda cherddorion proffesiynol . |