![]() |
![]() |
Ganwyd Paul Mealor yn Llanelwy yn 1995. Bu’n astudio cyfansoddi ers yn ifanc, yn breifat, yna gyda John Pickard, ac ym Mhrifysgol Efrog gyda Nicola Lefanu (1994-99). Wedi graddio, ennillodd Ysgoloriaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a’r James Pantyfedwen Foundation Bursary. Defnyddiodd y rhain i astudio yn Copenhagen gyda Per Noergaard a Hans Abrahamsen (1998-99) cyn dychwelyd i Efrog ble mae’n cyflawni doethuriaeth mewn cerddoriaeth ar hyn o bryd. Ennillodd Ysgoloriaeth Heinrichsen yn 2001, i fynychu Ysgol Haf Dartington, lle bu’n gweithio gyda Robert Saxton a Sir Harrison Birtwistle. Clywyd darnau gan Paul Mealor mewn llawer gwyl yn y DU, yn Ewrop, yn Siapan, ac yn America. Yn eu plith bu comisiynau, perfformiadau a gweithdai gyda Northern Sinfonia, Capricorn, The Britten Sinfonia, Rolf Hind, Melinda Maxwell, Orion Ensemble (Seland Newydd), Grimethorpe Colliery Brass Band,(gyda Elgar Howarth), Deuawd Celtica, Carol Crompton, Duo-North, York Chamber Choir, a’r York New Music Group. Darlledwyd ei waith ar BBC Radio 3, Radio Cymru, a Theledu a Radio Siapan. Cafodd ei ddarn i gerddorfa siambr, Ritual Landscapes, ei berfformiad cyntaf yng Ngwyl Shizuoka, Siapan, ym mhresenoldeb Tywysog Coron Siapan, ar y teledu yno. Cafodd gwaith cerddorfaol cyntaf Paul Mealor, sef Rising of the Six-fold Sun, ei chwarae am y tro cyntaf gan Gerddorfa Genedlaethol Cymru, dan arweiniad Thomas Dausgaard, yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, a pherfformwyd Timescapes gan ddawnswyr Orion yn Seland Newydd. Comisiynwyd y Consierto i Faryton Bb and Seindorf Pres gan y Birmingham Conservatoire, a’I chwarae gan Carol Crompton yn Llundain, Berlin, Yr Hague, California (San Diego a Santa Cruz), ac yn Auckland. Bu’n ddarn gosod yng Nghampwriaethau Consiertau Seindorf Pres Ewrop, yn y Swisdir, 2001, ac mae ‘nawr ar restrau arholiadau yr Associated Board of the Royal Schools of Music a Trinity College, Llundain. Cyhoeddwyr: Mostyn Music. Cafodd Paul le yn ddiweddar ar y "4x4 Composition Project", dan y cyfansoddwr John Manduell. Bu’n treulio wythnos yng Nghastell Muncaster, yn Cumbria, yn gweithio gyda’r Belcea Quartet ar ei Bedwarawd Llinynnol cyntaf. Cafodd ei ddewis i weithio gyda’r Britten Sinfonia yn ystod y Sounds New Festival yng Nghaergaint. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar gomisiynau i Wyl Gerdd Bro Morgannwg, Gwyl Gerdd Gyfoes Efrog, The Britten Sinfonia, a Gwyl Gerdd Newydd Bangor. |