![]() |
![]() |
Ganwyd Paul Corfield Godfrey yn Llundain. Wedi cyfnod yn byw yn yr Iwerddon, mae’n byw yn awr yng Nghymru, ac wedi astudio cyfansoddi ar wahannol adegau gydag Alan Bush a David Wynne. Mae ei restr eithr cynhwysfawr yn cynnwys tair simffoni, amryw ddarnau siambr a cherddorfaol (gan gynnwys ffliwt, sacsoffon a ffidil), a ddau ddarn cyngherddol hir i’r piano. Mae ganddo hefyd Ganeuon i lais a phiano, llais a grwp siambr, a llais a cherddorfa.. Hefyd mae ganddo ddarnau corawl a threfniadau: operâu gan gynnwys The Dialogues of Oisin and Saint Patric ac Arcturus,y ddwy wedi eu perfformio yng Nghaerdydd ac yn Neheubarth Cymru, a chylch o olygfeydd epig seiliedig ar nofel J.R.R.Tolkien gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth, The Silmarillion – clywyd rhannau o’r rhain eisoes yn Rhydychen. Ar wahan i’r operâu, clywyd ei waith led-led Lloegr, Cymru, yr Alban, yr Iwerddon, Hwngari, America, Awstralia a Seland Newydd. Cedwir ei lawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Mae wedi ymddangos fel perfformwr ar radio sain ac ar y teledui, a darlledwyd eisoes nifer o’i ddarnau.
|