Michael Robinson

Ganwyd MICHAEL ROBINSON ar Mawrth 3ydd, 1933. Cychwynodd ar ei yrfa academaidd trwy ddysgu Cynghanedd a Gwrthbwynt yn y Royal Scottish Academy of Music yn Glasgow, 1960-61, yna symudodd i ddarlithio ym Mhrifysgol Durham, 1961-65. Wedi hynny bu'n Brifathro Cysylltiol mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol McGill, Montreal, yna'n Uwch-Ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, ble'r aeth yn Brifathro Cerdd, 1991-94. Wedi ymddeol, cafodd ei wneud yn Brifathro Emeritws ym Mhrifysgol Caerdydd yn 1995.

Rhestr gwaith:
Er ei fod yn fwy adnabyddus am ei gyhoeddiadau am gerddoriaeth y gorffennol (yn arbennig opera yn yr Eidal yn y drydedd ganrif ar bymtheg), mae wedi cyfansoddi'n gyson ers llawer blwyddyn. Mae ei waith yn cynnwys:

Symudiad Sonata i fiola a phiano (1960)
Cerddoriaeth i ddrama Friedrich Dürrenmatt, The Visit (1963)
‘A child’s vision of night’ i soprano a phiano (1964)
‘Six Fugues’ i harpsichord (1968)
Credo a Gloria i gôr SATB ac organ (1968)
Pedwarawd Llinnynnol 1 (1972)
Pedwarawd Llinnynnol 2 (1975)
‘Three Settings of Thomas Hardy’ i fariton a phiano (1975)
Deuawd i ffidil a phiano (1978)
‘Three Settings of W.B. Yeats’ i denor a phiano (1979)
Deuawd i ddau biano (1983)
‘A pretty how town’ (e.e.cummings) i fariton a 8 offeryn (1984)
‘Phoenix’ i obo a phiano (1988)
‘Three songs about love’ i fariton a phiano (1994)
‘Two songs for Cherry Willingham’, i leisiau plant a phiano (1995/97)
Fantasy i sielo digyfeiliant (1997)
‘Blessed art thou, O God’, anthem i gôr dwbl (2001)
‘The House of Bernarda Alba’, opera mewn dwy act (1997-2005)
‘A Welsh Garland’ i fand milwrol (2006)

Recordiau:
Recordiwyd sawl un o'r darnau uchod ar CD. Gellir archebu rhain 
oddiwrth y cyfansoddwr, yn: Northridge House, Usk Rd, Shirenewton, Sir 
Fynwy, NP16 6RZ.

Bu Michael Robinson yn darlithio'n ddiweddar am ei gyfansoddiadau mewn 
prifysgolion yn America. Perfformiwyd rhannau o'r opera ‘The House of 
Bernarda Alba’ mewn ffurf cyngerdd ym Mhrifysgol Georgetown, 
Washington, ym mis Ebrill 2006.