Mervyn Burtch

Ganwyd Mervyn Burtch yn Ystrad Mynach yn 1929. Astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd, a bu’n athro cerdd ar hyd ei fywyd. Wedi dysgu am gyfnod hir mewn ysgolion, ymunodd a staff Coleg Cerdd a Drama Cymry yn 1979. Yn 1994, cafodd ei apwyntio yn bennaeth y Cwrs Perfformio. Tyfodd y galw am ei gerddoriaeth dros y blynyddoedd, ond parhaodd fel athro yn y Coleg hyd 1999. Mae’n dal i gyfansoddi heddiw, yn gyfansoddwr o fri.