Malcolm Jones

Ganwyd Malcolm Jones ar Awst 30, 1951. Mae ei gymwysterau yn cynnwys Army Musician First Class, a B.A. Hons. Band Studies (Prifysgol Sheffield). Mae wedi gweithio fel Principal Euphonium, Regimental Band, Her Majesty’s Welsh Guards (7 mlynedd); Lead Trombone yn y Ray Shields Orchestra a’r Herb Miller Orchestra; Bandleader a Lead Trombone yn y Tuxedo Junction Jazz Big Band. Bu’n chwarae, yn dysgu ac yn arwain ers dros 20 mlynedd, yn ogystal a threfnu a chyfansoddi. Medd Malcolm Jones:

Tra’n astudio gydag Arthur Butterworth y daethum i garu cyfansoddi, a darganfod fy ngallu fel cyfansoddwr. Bu’n freuddwyd gennyf ers cryn amser i gyfansoddi cerddoraeth ar gyfer ffilm - ‘rwy’n arbennig o hoff o waith gyda ffilm gan i mi gael fy ysbrydoli gan ddelweddau ac awyrgylch ffilm, sy’n dod â phob math o gerddoriaeth yn eu sgil. ‘Rwy’n hoff iawn hefyd o gyfansoddi Jazz. 

Cyfeiriad e-bost: maljomusic@btinternet.com .

PROSIECTAU Y BUM YNGLYN A HWYNT:
Bum yn gweithio ers llawer o flynyddoedd yn trawsgrifio a threfnu cerddoriaeth ar gyfer Seindorf Prês, Seindorf Chwyth Filwrol, Corau a Jazz Big Band.

Fel cyfansoddwr, bum yn gweithio hyd yn hyn yn:

1998 Billy the Seal

1999 Cwmdulais Suite

2001 Romance in the Air – animeiddiad 6’ gan Gerald Conn, un o ennillwyr Bafta Cymru, comisiwn gan S4C sydd ar y gweill yn bresennol (hawlfreintiau yn nwylo S4C/EMI) – dialog cerddorol yn cynnwys sawl genre: Pumawd Prês, offerynnol Indiaidd, unawd Ffidil, Baswn a Cherddorfa Linnynnol, Organ a Big Band.

2001 Incubus, Succubus – animeiddiad byr, comisiwn S4C – darn iasol i Gerddorfa Linnynnol a lleisiau.

2002 Llantarnem Grange – Ffilm i blant - siant Gregoriannaidd, Clarinet a Cherddorfa Linnynnol, Triawd Piano Jazz.

2002 Cerddoriaeth i ffilm gan Cinetig ar gyfer cais Caerdydd fel Dinad Diwylliant (CARDIFF CITY OF CULTURE BID) 2008

2002 ‘Rwydd gweithio’n bresennol ar gyfres o ddeg ffilm fer i’w rhyddhau ar y rhyngrwyd i’r DULAIS VALLEY PARTNERSHIP

Byddaf yn gweithio mewn sawl arddull: Clasurol: Deugywair, Digywair, Trichywair:Rhesgyfansoddiant (dodecaffoni, ayyb): Rhamantus (dull Tchaikovsky), Clasurol (dull Haydn), a Baroc (dull Vivaldi) ; Jazz : Trad. Jazz, Jazz Fodern, Be-bop Jazz, Big Band Swing, Jazz Rock/Funk.