![]() |
![]() |
Cafodd Lynne Plowman (ganwyd 1969) ei hadnabod yn gyntaf fel cyfansoddwr ym 1995 pan ennillodd Blue i gerddorfa lawn Wobr Cyfansoddwyr Ieuainc Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC . Ers hynny, clywyd ei gwaith yn rheolaidd yn y DU a thramor, ac yn rheolaidd hefyd ar radio'r BBC. O 2000 i 2001, bu Lynne Plowman yn gyfansoddwr sefydlog gyda Wingfield Arts yn Suffolk, ble y cyfansoddodd waith uchelgeisiol a ysbrydolwyd gan y "llong hir" hanesyddol yn Sutton Hoo: The Return of King Raedwald, i Andrew Slater (bās-baritone) a'r London Mozart Players. Yn ddiweddar ygrifennodd The Stargazer,comisiwn newydd i'r London Mozart Players i'w glywed ym mis Hydref 2002 yn swydd Lincoln. Yr hydref hwn, cawn glywed gwaith newydd i ffliwt a phiano, comisiwn i'r Stratford English Music Festival, a gwaith newydd i Bromsgrove Concerts. Fel chwaraewr ffliwt, mae repertoire eang gan Lynne Plowman, yn enwedig darnau cyfoes. Mae hi'n chwarae gyda PM Music Ensemble ers 1992, ac hefyd gyda'r pianydd David Appleton. Mae gan Plowman ymroddiad cryf i arwain prosiectau cerddorol mewn ysgolion, yn enwedig gan gydweithio ā dramategwyr mewn cyswllt theatrig. Yn y cyswllt hwn, bu'n gweithio gyda Opera North, Opera Genedlaethol Cymru, Music Theatre Wales, California State University, Cheltenham International Festival of Music, ac eraill. Mae hi'n dysgu cyfansoddi rhan-amser yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru. |