No photo is available at present

Ganwyd Lisa Mears yn 1979. Derbynniodd ei haddysg gerddorol yn gyntaf yng Ngholeg Merched Malvern, ble cafodd Ysgoloriaeth Cerdd, ac yna ym Mhrifysgol Bryste, ble graddiodd gydag anrhydedd mewn Cerddoriaeth. Ar hyn o bryd mae’n astudio ar gyfer gradd uwch mewn Cerddoriaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, dan Lynne Plowman a Christopher Painter.

Mae’n cyfansoddi mewn dull cyweiraidd, dan ddylanwad cyfansoddwyr Ffrengig o’r ugeinfed ganrif, a cherddoriaeth Sbaen a’r dwyrain pell. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn cynhyrchu cerddoriaeth gorawl ac eglwysig.

Cafodd darn ganddi, sef Fanfare, ei chwarae mewn gweithdy gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae’n gweithio ar hyn o bryd ar gomisiwn i osod y Sacrum Convivium, i Colla voce, a gwaith newydd i PM Ensemble.