![]() |
![]() |
Ganwyd John Ramsden Williamson ym Manceinion yn 1929. Cyflawnodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg William Hulme a Choleg Cerdd Brenhinol Manceinion, gan astudio piano a chyfansoddi. Ennillodd ei ARMCM, ac yn hwyrach B Mus (Dunelm), FLCM, ac LRAM fel efrydydd allannol. Bu’n athro mewn sawl ysgol yn Lloegr ac yng Nghymru. Wrth ddal ati i gyfansoddi, datblygodd arddull bersonnol nodweddiadol tryw ddefnyddio palindromau, a moddion penatonig a moddol. Daeth ei waith aeddfed i’r amlwg o 1980 ymlaen, darnau i biano, cerdd siambr, a chaneuon, yn cynnwys tua 20 Sonata, a chasgliad a ganeuon (tua 30) yn gosod geiriau y bardd A.E.Housman. Ennillodd Gwpan Barlow yng Nghaer am gyfansoddi sawl gwaith rhwng 1970 a 1990. Clywyd ei cerddoriaeth yn aml yn y Rhyl Music Club (mae John yn aelod gweithgar o’r pwyllgor), a hefyd ar hyd a lled Gogledd Cymru ac yng Nghaer. Cyhoeddir dau ddarn i recorder a phiano gan Curiad, a chyfrol o ddarnau piano gan Gwynne.
John R. Williamson, |