John Metcalf

Ganwyd John Metcalf yn Abertawe yn 1946. Mae erbyn hyn yn ddinesydd ym Mhrydain Fawr ac yng Nghanada, ac yn un o gyfansoddwyr cyfoes mwyaf blaenllaw Cymru. Ers dechreu ei yrfa yn y 1960au bu’n gyfansoddwr llwyddiannus a chorff eang ac amrywiol o waith ganddo, yn cynnwys pum opera, a dau gomisiwn oddiwrth Opera Cenedlaethol Cymru. Cafwyd perfformiad cyntaf llwyddiannus iawn Kafka’s Chimp mis Awst 1996 yng Nghanada, gyda premiere Ewropeaidd yn Sweden yn 1999, a chynhyrchiad newydd yn yr Almaen yn 2001.

Dengys ei waith diweddar fod ei arddull a’i aeddfedrwydd yn cynyddu – er enghraifft y Consierto Marimba llawn asbri i Evelyn Glennie, a chyfres o ddarnau offerynnol pwysig, yn eu mysg Paradise Haunts, Rest in Reason, Move in Passion, a Not the Stillness. Clywyd Museum of the Air, i gerddorfa lawn a mezzo-soprano (Della Jones a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC) yn 1998, a Dances from Forgotten Places i Gerddorfa Linynnol (European Chamber Orchestra) yn 1999. Cafodd hwn ei chwarae eisoes ugain o weithiau gan gerddorfeydd led-led y byd. Cafwyd Caneuon y Gerddi yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ym Mai 1999, ac wedyn yn Minneapolis ac Efrog Newydd. Yn Rhagfyr 1999, cafodd Transports, prosiect cysylltiiol gyda’r artist Catrin Webster, gyflwyniad yn y Galeria Communale d’Arte Moderna e Contemporanea yn Rhufain cyn ei gyflwyniad cyntaf yng Nghaerdydd yn y mis Medi. Cafwyd tri premiere mewn wythnos ym mis Hydref 2000, gan gynnwys Passus gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a bu i John rannu trafodaeth gyhoeddus ym mis Tachwedd 2000 gyda Peter Sculthorpe yn Llyfrgell Genedlaethol Awstralia yn Canberra.

Bu John yn Bennaeth ac Is-bennaeth Celfyddydol Canolfan Banff yng Nghanada am ymron i ddeng mlynedd. Mae Onawr yn llenwi’r swydd hon yng Ngwyl Bro Morgannwg (a ennillodd sawl gwobr) ac yng Ngwyl Abertawe. Bu’n arwain prosiectau cyfansoddi mewn mwy na chant o ysgolion Cymru – cred John yn gryf y dylai fod i’r cyfansoddwr safle bwysig mewn cymdeithas. Mae’n Gyfansoddwr Cysylltiol yn y Canadian Music Centre, ac yn aelod anrhydeddus o Brifysgol Cymru yn Llanbedr. Derbynniodd Wobr John Edwards yn 1996 gan Urdd Cerddoriaeth Cymru am ei wasanaeth i gerddoriaeth yng Nghymru, a gwahoddwyd ef yn 1999 i gyfansoddi cerddoriaeth i’w chwarae yn ystod arwyddo deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth - y cynulliad etholedig cyntaf yng Nghymru ers 500 mlynedd.

Clywir cerddoriaeth John Metcalf yn aml ar lwyfan ac ar radio a theledu mewn sawl gwlad. Cafwyd llawer perfformiad o’i waith yn y DU yn 2001, yn ogystal ag yn Iwerddon, Canada, Fenezuela, Columbia, Bulgaria, Latfia, Belarus, yr UD, Malta, ac Awstralia. Recordiwyd ei waith ar labeli Lorelt, Sain a Cyfoes.Mae eu gomisiynau heddiw yn cynnwys consierto i Raphael Wallfisch

web: www.metcalf.demon.co.uk