![]() |
![]() |
Mae John Hardy yn gyfansoddwr profiedig yn cynhyrchu cerdd ym mhob maes ac ym mhob arddull. Mae wedi cyfansoddi cerddoriaeth wreiddiol ar gyfer mwy na 140 o ddramâu a rhaglenni teledu, gafodd eu gwylio ar hyd a lled y byd, a’u darlledu ar bob sianel yn y DU. Mae ei brif waith yn cynnwys yn arbennig: Yn ogystal a’i gerddoriaeth ffilm, mae John wedi cyfansoddi ar gyfer dramâu radio’r BBC, prosiectau addysgiadol, i’r theatr ac ar gyfer cwmnîau dawns. Cafwyd comisiynau i gerddorfa, cerddoriaeth siambr, cylchoedd o ganeuon, cerdd gorawl, operâu siambr ac opera gymunedol, gan gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr, y Loteri, y BBC, Opera Genedlaethol Cymru, a’r Proms Cymraeg, ymysg ffynhonellau eraill. if you want to compose for film, first study every
kind of music in the world, then open your mind to collaboration... Bydd y casgliad personol hwn ar gael i’w ddefnyddio - neu i’w ail-ddefnyddio - am gost isel, neu yn rhad ac am ddim, cyn belled ag y bo’r manylion yn cael eu cofrestru yn swyddogol gydag MCPS. Mae cyfansoddiadau eraill gan John Hardy i’w cael o Music House ["library music"], drwy EMI, ac ar label Sain. Cysylltwch â John Hardy ar: mail@johnhardymusic.com
|