Jayson Mackie

Ganwyd Jayson K Mackie yng Nghaerdydd yn1975. Dechreuodd gael gwersi piano yn 10 oed, gitâr yn 13,  a ffliwt yn 14. Dechreuodd gyfansoddi yn 15, tra’n paratoi ar gyfer GCSE  mewn cerddoiaeth. Bu’n chwarae ffliwt yn y  South Glamorgan Flute and Clarinet Ensemble, a chlarinet yng Ngherddorfa Jazz Ysgolion Dê Morgannwg. Bu’n datblygu’r cyfansoddi drwy ei astudiaeth am Lefel A, ac yna cafodd gyhoeddi yn eithaf llwyddiannus dwy gyfrol o ddarnau i ddysgwyr: Jazz Suite i bedwar ffliwt (1991), a Holiday Music i ffliwt a phiano (1991) yn1992, yn 17oed. Cyfansoddwyd rhain ar gyfer GCSE a Lefel A, a’r cyhoeddwyr yw Spartan Press Music Publishers Ltd. Daeth Jazz Suite yn best- seller. Dechreuodd hyfforddi piano, ffliwt, a nodiant (1994 - heddiw), cafodd brofiad achlysurol o hyfforddi dosbarthiadau, a chyfeilio cynhyrchiadau ysgolion lleol ar y piano.

Aeth i Goleg Brenhinol Cerdda Drama Cymru i astudio Cyfansoddi gyda  Gareth Davies yn 1997. Yn sgîl hyn daeth perfformiadau o ddarnau, gan gynnwys Pumawd Chwyth (1997) ddewiswyd i gynrychioli’r Coleg  yn yr Inter Conservatoire Composers Consortium yn yr RNCM yn 1998, ac ysgoloriaethau ariannol am gyfansoddi yn 1998, 1999, a 2003. Cafodd gomisiwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Loteri, ynghyd â Roshanak Nasehi i gyfansoddi cerddoriaeth i’r ddrama blant The Big Stink, y libretto gan Vivian French. Cafodd y radd uchaf yn y Performer’s Licentiate Diploma LWCMD, Gorffennaf 2000.

Daeth yn ôl i’r Coleg Cerdda  Drama yn 2002 i gychwyn ar radd MMus mewn cyfansoddi dan Lynne Plowman a Tim Raymond. Cafwyd fwy o berfformiadau llwyddiannus. Dewiswyd Weather Notes from Baby Earth, cathl symffonig yn disgrifio patrymau tywydd hynafol, i gynrychioli’r Coleg mewn fforwm cyfansoddwyr yn stiwdio’r BBC yng Nghaerdydd, gyda gweithdy, perfformiad a recordiad gan Gerddorfa Genedlaethol Cymru’r BBC, mis Mawrth 2003 . Yn fwy diweddar, dewiswyd Jason i gynrychioli’r Coleg yn y Leeds Fuse Festival, i gyfansoddi darn ar gyfer y Birmingham Connect Ensemble ym mis Mawrth 2004.