![]() |
IAN LAWSON Ganwyd fi yn Lerpwl yn 1955. Ond o drâs cymysg, Cymreig a Scotaidd, ydwyf i, a chefais fy nwyn i fyny yn Wrecsam, yng Ngogledd Cymru. Ar yr ochr Gymreig, ‘rwy’n perthyn i’r gyfansoddwraig Grace Williams. Wedi i mi astudio cyfansoddi ym Mhrifysgol Caerdydd (1974-1980), ffurfiais bartneriaeth â’m cyd-fyfyriwr Ben Heneghan. Ein pwrpas cyntaf oedd ffurfio grwp pop, a dyma a wnaethom, gan chwarae yn unrhyw fan oedd yn fodlon rhoi llwyfan i ni – gan gynnwys Radio 1. Fodd bynnag, fe’n dennwyd yn o fuan i gyfansoddi ar gyfer y teledu. Wedi i ni gychwyn mewn busnes fel stiwdio recordio, aros yn y stiwdio fu’r hanes, a dyna ble’r ydym ni hyd heddiw. Fy nôd yn y cychwyn oedd bod yn gyfansoddwr “o ddifri”, yn cyfansoddi cerddoriaeth cyngerdd. ‘Doedd hyn ddim yn ymarferol, gan mae cerdd donyddol ac alawol a fynnwn i ei chreu. Yn ffodus, gyda chychwyn sianelau 4 ac S4C, cawsom ddigon o waith, ac ers hynny cawson ryw 400 o gomisiynau ym maes y cyfryngau. Fodd bynnag, byddaf yn dâl i gyfansoddi cerddoriaeth “o ddifri”, a berfformir nawr i dro i dro, diolch o’r rhyngrwyd ac i gefnogaeth Chandos Records ac eraill. Ymwelwch â www.heneghanlawson.com am ragor o wybodaeth am fy ngherddoriaeth, a blas ohonni. |