Ers ei phlentyndod yng nghymoedd y de, bu gan HILARY TANN (ganwyd 1947) gariad mawr tuag at fyd natur, a ysbrydolodd llawer o’i cherddoriaeth, gan gynnwys darnau a sgrifennwyd yn yr UD (ee Adirondack Light, i adroddwr a cherddorfa, ar gyfer Canmlwyddiant Adirondack State Park, 1992), neu ddarnau i’w perfformio yng Nghymru (ee yr Agorawd With the heather and small birds, gomisiynwyd gan Wyl Caerdydd 1944). Mae ganddi ddiddordeb dwfn yng Ngherddoriaeth Siapan, a arweiniodd hi i astudio yr hen ffliwt bambw Siapaneaidd, y Shakuhachi, o 1985 hyd 1991, ac i breswyliad yn Kansai Gaidai, ger Kyoto, yn 1990. Clywir y diddordeb arbennig hwn mewn sawl darn ganddi, yn arbennig y darn siambr Of erthe and air (1990) a From afar, berfformwiwyd am y tro cyntaf ar Hydref 14 October 1996 gan y Knoxville Symphony Orchestra dan arweiniad Kirk Trevor, ac a chwarewyd hefyd gan Gerddorfa Genedlaethol Cymru y BBC ym 2000.

Ers 1980, bu Hilary Tann yn byw i’r de o’r Adirondacks yn New York State, ble mae hi’n dal Cadair Adran y Celfyddydau Perfformiadol yn Union College yn Schenectady. Mae ganddi radd mewn cyfansoddi gan Brifysgol Cymru, Caerdydd, a Phrifysgol Princeton. O1982 hyd 1995 bu’n weithgar gyda’r International League of Women Composers, gan wasanaethu sawl gwaith ar eu Pwyllgor. Ers 1989 cyhoeddwyd ei cherddoriaeth gan yr Oxford University Press yn unig. Hyrwyddwyd ei gwaith gan sawl corff, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, New York State Council on the Arts, a Meet the Composer. Derbynniodd sawl comisiwn am ddarnau cyngerdd yn y blynyddoedd diwethaf, y diweddaraf i’r sielydd o Romania, Ovidiu Marinescu a’r Newark (Delaware) Symphony Orchestra, berfformiwyd ar Rhagfyr 10, 2000. Ym mis Mawrth, 2001 bu Hilary Tann a Shulamit Ran mewn preswyliad ar y cyd gyda LG&E Energy Corp. yn eu cyfres newydd New Dimensions Series a ariannwyd gan y Louisville Orchestra a Phrifysgol Louisville.

Mae ei cherddoriaeth yn aml yn tarddu o ysbrydoliaeth yr amgylchfyd naturiol. Mae o wead cynnil, yn hynod dryw i gymeriad a timbre sain, ac yn aml yn datblygu cyfoeth o batrymau . Naws delynegol sydd i’r gerddoriaeth yma ar y cyfan, and o dro i dro ceir enyd o fynegiant chwyrn.

– A. J. Heward Rees

The New Grove® Dictionary of Women Composers (cyfieithiad EL)