![]() |
![]() |
Ganwyd Guto Pryderi Puw yn y Parc, Y Bala. Astudiodd gydag Andrew Lewis a Pwyll ap Siôn ym Mhrifysgol Bangor lle y graddiodd gydag Meistr mewn Cerddoriaeth yn 1996, ac ar ôl ennill Ysgoloriaeth Parry Williams yn 1997 fe ddychwelodd i wneud doethuriaeth mewn cyfansoddi. Perfformiwyd ei weithiau gan artistiaid cydnabyddedig megis y London Sinfonietta a'r London Sinfonietta Voices, Goldberg Ensemble, Elinor Bennett, Hugh Webb, Ian Pace, Jeremy Huw Williams, Pedwarawd Llinynnol y Duke, Tubalaté, Icarus Ensemble, a'r PM Ensemble, ymysg eraill. Enillodd Guto Dlws y Cerddor ddwy waith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1995 ac yna 1997. Darlledwyd y gwaith buddugol diwethaf, Mecanwaith yn ystod cyfres Y Cyfansoddwyr ar S4C, ac fe'i perfformiwyd gan Bedwarawd y Duke yn ystod Gwyl Gerddoriaeth Caerfaddon 1998, ac i ddilyn yng Ngwyl Gerddoriaeth Gyfoes Huddersfield 1999. Yn ddiweddar derbyniodd nifer o'i weithiau berfformiadau mewn amryw o wyliau cerddorol ar hyd y wlad, gan gynnwys State of the Nation, Gwyl Gerdd Gogledd Cymru, Gwyl Gerdd Newydd Bangor, yn ogystal â Gwyl Bro Morgannwg. Yn ddiweddar perfformiwyd ei waith different light yng Nghanolfan Gelfyddydol Angel Orensanz yn Efrog Newydd fel rhan o wyl UKwithNY. Ymysg y gweithiau a recordiwyd ceir ei gân Blodeuwedd gan Jeremy Huw Williams (label Sain), ynghyd â Visages ar y CD Earth and Moon gan Tubalaté (label TCD). Yn ddiweddar, derbyniodd ddau gomisiwn cerddorfaol, un gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar gyfer tymor 2003, a'r llall gan y Britten Sinfonia. Mae Guto yn Gyfarwyddwr Cerdd a Chadeirydd Gwyl Gerdd Newydd Bangor. |