![]() |
Ganwyd GARETH WOOD yng Nghilfynydd yn 1950. Astudiodd gyfansoddi a’r bâs dwbl yn y Royal Academy of Music, ac ymunodd â’r Royal Philharmonic Orchestra ym 1972. Ers hynny, bu’n teithio’n eang gyda’r gerddorfa, gan chwarae yn holl Wyliau Cerdd mwyaf y byd. Mae wedi chwarae hefyd dan rai o’r arweinyddion enwocaf, megis Stokowski, Kempe, Karl Bohm, Haitink, Solti, gan gynnwys cylch y “Ring” gyda English National Opera dan Reginald Goodall. Daeth yn gadeirydd y Royal Philharmonic ym 1991, am dair mlynedd. Fel cyfansoddwr. daeth i sylw’r cyhoedd ym 1975 pan berfformiwyd ei agorawd Tombstone, Arizona yn y Royal Albert Hall yn ystod Gwyl Genedlaethol y Bandiau Prês. Cyfansoddodd lawer i seindorf prês wedi hynny, gan gynnwys darnau prawf ar gyfer Butlins Youth Band Contest 1977, y New Zealand Brass Band Championships ym 1980, a’r European Championships ym 1992. Ym 1981 comisiynwyd ei agorawd Suffolk Punch, gan y Royal Philharmonic, gyda pherfformiad cyntaf yn Ipswich, ble cafodd encôr. 1982 oedd canmwyddiant yr ymlafan enwog yn yr O.K. Corral. Ad-drefnodd Gareth ei agorawd Tombstone ar gyfer yr University of Arizona Symphonic Wind Band, a chafodd ei chwarae yn yr O.K. Corral ei hun ar ddydd y canmlwyddiant! Cafodd lawer o waith hefyd gan Gerddorfa Ieuenctid Genedlaethol Cymru, gyda chomisiynau am dair sinfonietta a dwy ffanffer. Yn wir, bu ffanfferau yn rhan fawr o’i waith fel cyfansoddwr, ar gyfer er enghraifft penblwydd Cunard yn 150 (chwarewyd ar y QE II), agoriad y Kravis Centre yn West Palm Beach, Florida, a chychwyn cyfnod preswyl y Royal Philharmonic yn Nottingham. Comisiynwyd agorawd ffanfer ar gyfer lansiad Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd, a recordiwyd gan Gerddorfa Opera Genedlaethol Cymru, gyda Carlo Rizzi yn arwain, a recordiwyd gan EMI. Mae darnau eraill yn cynnwys Three Mexican Pictures i seindorf chwyth, consierto i fâs dwbl, a chwarewyd gan y perfformwr ifanc disglair Timothy Gibbs gyda’r Wiltshire Youth Orchestra ym 1995, dwy sonata i biano, consierto i sielo a phumawd prês, sonatau i glarinet a fiola, a’r Fantasy on Welsh Song, a chwareir bob blwyddyn yn y Welsh Proms yng Nghaerdydd. Cyfansoddwyd cylch o ganeuon, Poems within a Prayer, i’r tenor Robert Tear, a ddewisodd y farddoniaeth ar ei gyfer. Perfformiwyd Toduri, darn seliedig ar gerddoriaeth o’r bumed ganrif ar ddeg yng nghwrt brenhinoedd Korea, yn Seoul fel rhan o ddathliadau eu 6ed canmlwyddiant. Bu mor llwyddiannus fel y cynhwyswyd y darn mewn capsiwl amser i’w agor mewn 400 mlynedd! Arweiniodd Gareth y Royal Philharmonic yng Ngwyl Gerdd San Juan yn 1995, ac mae’n cymryd rhan sylweddol yn eu rhaglen addysgol. Yn eu gweithgaredd diwethaf, bu aelodau o’r gerddorfa yn eistedd gydag aelodau ifainc cerddorfa ieuenctid, i chwarae darn newydd a gomisiynwyd gan yr Halifax Building Society, The Moors and the Mills. Mae Gareth wedi cyfansoddi ffanffer ar gyfer penblwydd Yehudi Menuhin yn 80, ac
|