![]() |
![]() |
Ganwyd GARETH PEREDUR CHURCHILL yn 1980. Mae teulu Gareth Peredur yn dod o Griffithstown (Pont-y-pŵl). Astudiodd Gareth yn Llundain:- cyfansoddi gyda Rhian Samuel ym Mhrifysgol City ac obo gyda Helena Gaunt yn Ysgol Cerdd a Drama’r Guildhall. Ar ôl graddio fe symudodd e nôl i Gymru i wneud M Mus mewn cyfansoddi gyda Lynne Plowman ym Mhrifysgol Caerdydd ble mae e rwan yn gwneud doethuriaeth mewn cyfansoddi gyda Anthony Powers. Pan oedd Gareth yn Llundain cafodd un o’i gyfansoddiadau 'Annwn' eu berfformio ddwy waith gan y pianydd Helen Reid yn Ystafelloed Purcel yn ystod y Trafodaeth Cyfansoddwyr Ifanc yng Nghyfres Artistiad Ifanc Park Lane. Ers bod nol yn Nghymru mae Gareth wedi cael comisiynau gan y Y Pedwarawd Clarinet Albanaidd, Nicky Long ac Ensemble Spirito..Cafodd 'Slithy Toves' (unawd Clarinet Bas) ei berfformio ac wedyn ei recordio yn Glasgow gan Becky Smith (Y Pedwarawd Clarinet Albanaidd / Ensemble Symposia). Ar ol i 'Gorsedd Pont-y-pŵl' gael ei berfformio yn ystod Musicfest Aberystwyth cafodd e ei raglenni gan y PM Ensemble a grwp cerddoriaeth cyfoes Prifysgol Caerdydd sy wedi perfformio'r darn yn Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac ym Mhrifysgol Caerdydd / Canolfan Mileniwm Cymru yn eu tro. Enillodd Gareth wobr cerddoriaeth Urdd Lifrai Cymru yn 2005 am gylch o ganeuon newydd 'Blodeugerdd' sy wedi cael eu rhaglenni gan Brifysgol Caerdydd ar gyfer perfformiad gan Jeremy Huw Williams a Nigel Foster yn 2006.Ar hyn o bryd mae Gareth yn ysgrifennu sonata (i fiola) 'Cromlech' ar gyfer Philip Heyman a phedwarawd llinynnol 'Ystwyth'. Rhestr gwaith:
|