![]() |
Cafodd Enid Luff ei haddysg gerddorol gyntaf drwy astudiaethau piano. Wedi hynny, drwy astudio Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Caergrawnt, cafodd gefndir eang mewn ieithoedd a llenyddiaeth, yn arbennig drwy ddarllen a chyfieithu barddoniaeth. Trodd yn ol at gerddoriaeth, gan astudio’r piano unwaith eto gyda George Hadjinikos ym Manceinion yn y chwedegau, a thrwy gyfrwng hyn, daeth i ddeall ac i garu cerddoriaeth yr ugeinfed ganrif. Wrth drin cerddoriaeth ein hoes ni ein humain, ac ymgymryd a’i chwarae a’i gyfansoddi, agorwyd y ffordd i astudiaethau pellach, sef Mmus Prifysgol Cymru (yn1974) ac yna i barhau i gyfansoddi. Cafodd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i weithio yn gyntaf gydag Elizabeth Lutyens, ac yna gyda Franco Donatoni. Wedi byw am rai blynyddoedd yn Llundain, ac yna yn Birmingham, mae Enid Luff yn byw yn awr yng Nghaerdydd. Mae’n cyhoeddi ei gwaith, ynghyd a cherddoriaeth Julia Usher, fel hunan-gyhoeddwr drwy eu gwasg Primavera, a hi yw Ysgrifennyddes Cyfansoddwyr Cymru/Composers of Wales. Enid Luff yw Cyfansoddwr y mis hwn yng Nghanolfan Mileniwm Cymru web:
www.impulse-music.co.uk/primavera.htm
www.primaveramusic.com
|