Elaine Hugh-Jones

Ganwyd Elaine Hugh-Jones yn 1927. Cafodd yrfa amrywiol a llwyddiannus fel piannydd proffesiynol, fel cyfansoddwr, ac fel athrawes. Astudiodd y piano gyda’r Dr. F. W.Wadsley, Harold Craxton, a Julius Isserlis, a chyfansoddi gyda Sir Lennox Berkeley. Bu yn gyfeilydd swyddogol i’r BBC am 37 mlynedd. Bu’n cyfeilio rhaglenni radio a theledu, ac yn dysgu’r piano mewn gwahannol ysgolion, gan gynnwys 25 mlynedd y Malvern Girls’ College, ac yna yn Malvern College, cyn ymddeol yn 1997.

Meddai’r pianydd Michael Jones: "Mae caneuon Hugh-Jones yn nodweddiadol am eu cyfeiliant piano cyfoethog, llawn dychymyg, a’u halawon cofiadwy. Yn ystod y blynyddoedd diweddar, aeth ei harddull ar gyfer y piano yn fwy a mwy cerddorfaol..." Lleisiol a chorawl yw ei chyfansoddiadau bron yn ddeithriad. Y diwethaf o rhain yw gosodiad fel cylch o gerddi, yn 2003, o ganeuon rhyfel Wilfred Owen, i denor neu soprano gyda chyfeiliant piano, neu gyda chyfeiliant i gerddorfa lawn. Darlledwyd nifer o’i chaneuon yn y blynyddoedd diweddar, yn y Swisdir (10 cyngerdd), yn America (4 cyngerdd), yn Norwy (2 gyngerdd), un ym Mharis, un yn yr Eidal, ac un yn Llundain, a sawl cyngerdd yn yng Nghanolbarth Lloegr. Cyhoeddir ei gwaith gan William Elkin, Micropress, ac OUP.