Dafydd Einion

Einion Dafydd, ganed 1962 yng Nghaerdydd.

Addysg: Ysgol Gyfun Llanhari, Coleg Y Brifysgol Bangor (BMus, MA), Coleg Mills (Califfornia).  Prif offerynnau: clarinet (bu’n ddisgybl i Mike Saxton) a sacsoffon (dysgu ei hun ond daeth o dan ddylanwad Anthony Braxton yng Nghaliffornia).  Maes ymchwil: Darius Milhaud.

Tueddiadau cerddorol fel ag y’u gwelir yn ei gasgliad recordiau a CD: Beethoven, Bartok, Glenn Miller, Simon & Garfunkel, Kurt Weill, Paul Desmond, Mills Brothers, Miles Davis, World Saxophone Quartet, Berg.

Mae arddull Dafydd, yn rhinwedd ei swydd gyda Glanaethwy, yn medru bod yn hynod eclectig.  Fel arall, nodweddir ei arddull gan ddefnydd o foddau, harmonïau dilynol a phandonyddiaeth.

Swydd: cerddor preswyl Ysgol Berfformio Glanaethwy.  Athro offerynnol a dosbarth rhydd-gyfrannol, ymchwilydd (e.e. cyfraniadau i gyfieithad Cymraeg o’r Oxford Concise Dictionary of Music).