![]() |
![]() |
Cyfansoddwr a phianydd yw DAN PHELPS. Ganwyd ef yn Birmingham ym1981. Bu’n cyfansoddi ers iddo fod yn naw
oed, ac yn chwarae’r piano ers bod yn unarddeg. Wedi ennill Diploma Genedlaethol BTEC nmewn Cerddoriaeth Boblogaidd yn New College Telford, Sir
Amwythig, aeth ymlaen i astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Bath Spa, ple derbynniodd gradd BA gyda
anrhydedd. Wedi cyflawni Diploma Uwchraddedig mewn cyfansoddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama
Cymru, mae nawr yn gweithio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn arwain gweithdai addysgiadol cerddorol i
blant. Ers i Dan fod yn byw yng Nghaerdydd, mae wedi cyfansoddi darnau ar gyfer nifer o grwpiau ac unifgolion cerddorol proffesiynol, gan gynnwys Rubicon Dance, India Dance Wales, cwmni theatr Elan Wales, Calon TV (cwmni animeiddio), ac eraill. Bu’n gweithio’n ddiweddar gyda’r Gjylaci Duo. Rhoesant berfformiad premiere o’i ddarn i Ffidil a Gitar yn y Whitworth Art Gallery yn Manceinion, ac eilwaith yn y rhaglen 'Monday Night Musicales' gan y Royal Northern College of Music. Mae Dan yn aelod a chyfansoddwr cysylltiol gyda’r Cardiff New Music Collective, sy’n arbennigo mewn chwarae cerddoriaeth gyfoes i gynulleidfaoedd newydd, er enghraifft yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter, Canolfan Mileniwm Cymru, a’r Canton Uniting Church, ac mae rhagor o gyngherddau ar y gweill ganddynt. Ceir rhagor o wybodaeth am y Cardiff New Music Collective ar eu gwefan www.cnmc.moonfruit.com. Perfformiwyd "The Empty Head" gan Dan, i ddau glarinet a baswn am y tro cyntaf gan Ensemble Cymru ym mis Mehefin 2006, yn yr Wyddgrug, ac ar ôl hynny ar daith o chwe chyngerdd drwy Ogledd Cymru. Chwarewyd "Minimum Vs Maximum" am y tro cyntaf yng nghyngerdd Cyfansoddwyr Cymru yn ystod gwyl Gerdd Newydd Bangor, mis Mawrth 2006. Yn fwy diweddar, perfformiwyd "Twisted Fairground", i fiola a phiano, gan Philip Heyman (o Opera Genedlaethol Cymru) a Zoe Smith yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mis Mehefin 2006. Am ragor o wybodaeth ynglyn øa'r cyfansoddwr, ei waith neu ddigwyddiadau i ddod, gyrrwch e-bost i
dan_phelps81@yahoo.co.uk
neu ewch i'w wefan: www.nationalgigguide.com/danphelps
neu http://www.compositiontoday.com/danphelps/
. Rhestr
gwaith: |