Ionawr - Mawrth 2008
cynnwys:
oddiwrth y golygydd erthyglau newyddion gwyl gerdd newydd bangor 2008
cyfansoddwyr wrth eu gwaith llythyr at y golygydd rhestrau cyfeiriadur gweithgor cyfansoddwyr cymruYn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, bum mewn cysylltiad â dau fyd cerddorol tra gwahannol. Fel aelod o’r BACS, bum yn gwasanaethu dair gwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar banelau gwahannol yn ymwneud â’r British Academy Classical Awards, yn eu pencadlys yn Llundain. Felly cefais weld a chlywed, yn o fanwl, rai sgoriau clasurol cyfoes. Mae hwn yn gallu bod yn brofiad cyffrous, neu ddigalon, neu wethiau yn codi braw, fel pan roddwyd o’m blaen sgôr i bedwarawd sacsoffon, a minnau heb lawer o syniad beth oedd eu trawsnodiadau. ‘Roedd y broses yn canolbwyntio bob tro, fel y dylai, ar y sgoriau eu hunain, er mai pleser hollol ddiffuant oedd cael cyfarfod a sgwrsio â cherddorion adnabyddus, na fuaswn erioed wedi eu cyfarfod fel arall. Pleser a braint hefyd oedd cael dilyn y broses drwodd i’r seremoni wobrwyo (gweler fy adroddiad isod), ond synnaf eto profiad mor wahannol i hwnnw oedd mynychu’r Diwrnod Ffilm, a noddwyd gan y Welsh Music Foundation yn y “Point”, y neuadd roc a phop byw ym Mae Caerdydd. Noddir y corff ardderchog hwn gan y Cynulliad Cenedlaethol, ac mae’n arddel aelodaeth, a chefnogaeth, i unrhyw unigolyn neu gwmni a fo’n cymryd rhan yn fasnachol mewn unrhyw ffordd ym myd cerdd yng Nghymru (a hynny’n cynwwys cyfansoddwyr annibynol). Gweler fwy am y dydd isod.
Yma roedd y pwyslais ar gynnig cefnogaeth a gwybodaeth i gerddorion ifainc a ddymunai weithio ym maes ffilm, drwy sesiynnau panel a thrwy “speed dating” (sef cyfle i gyfarfod cynhyrchwyr ffilmiau), heb son am yr ugain neu fwy o fyrddau bychain crwn oedd yn llenwi’r neuadd, bob un â phump neu chwech o gerddorion o’i gwmpas yn sgwrsio nerth eu pennau.
Da oedd cael bod yn y ddau ddigwyddiad!
Enid Luff
Rôl y Sgoriwr (Orchestrator)
Tra bum yn astudio cyfansoddi a sgorio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru o 91-94, gyda Mervyn Burtch a James Harrison (gyda golwg ar allu rhoi fy nerth gan fwyaf i gyfansoddi llawn amser wedi graddio), ‘doedd dim modd i mi ragweld y byddwn yn y diwedd yn gweithio gan fwyaf gyda cherddoriaeth pobl eraill
(er y bu gennyf erioed, a dweud y gwir, fwy o ddiddordeb mewn gwaith
cyfansoddwyr eraill nag yn fy ngherddoriaeth fy hun).
Er fy mod yn dâl i sgrifennu llawer o gerddoriaeth wreiddiol ar gyfer ffilm a’r theatr, mae’n wir y byddaf yn treulio’r rhan fwyaf o’r amser yn gweithio fel sgoriwr ar brosiectau ffilm a rhai adlunio (reconstruction projects) - heblaw pan fyddaf yn dysgu yng Ngholeg Gorseinon.
Gwelir rôl y sgoriwr yn aml fel un amwys, a’r un cwestiynnau’n codi bob tro - “Beth mae nhw’n wneud felly? Pa gyfraniad wnan nhw i’r sgôr yn y pen draw?” - a “Pam mae ar Hans Zimmer angen 15 ohonyn nhw ar un prosiect?” Yr ateb syml i bob cwestiwn (heblaw yr un diwethaf) yw ei fod yn dibynnu gan fwyaf ar y cyfansoddwr.
Oherwydd y cyfyngiadau o ran amser fydd ar y cyfansoddwr ffilm, rhain oherwydd gofyniadau fwy a mwy afresymol y studios, ychydig iawn o amser sydd ganddynt i baratoi sgôr cyfan parod (gallai hyn olygu cyfansoddi a recordio gwerth 70 munud o gerddoriaeth mewn ychydig wythnosau - bu raid i Jerry Goldsmith gynhyrchu sgôr newydd i ‘Chinatown' Roman Polanski''mewn deng niwrnod yn unig!); dyma ble mae galw am sgoriwr. Bydd y rhan fwyaf o gyfansoddwyr yn cynhyrchu braslun o’r gerddoriaeth ar bapur 12/15 erwydd, gyda nodiadau manwl ynglyn â rhannu’r llinynnau, 8vas, 8vbs, effeithiau offerynnol arbennig, ac yn y blaen, ac yna bydd y sgoriwr yn trosglwyddo’r wybodaeth hon i’r “siart” gerddorfaol safonol. Dyma’r broses ddelfrydol, ddilynwyd yn sicr gan gyfansoddwyr megis John Williams, Jerry Goldsmith, Howard Shore, James Horner a Danny Elfman (er i Elfman ddioddef ymgyrch gelwyddig yn ei erbyn wedi iddo orffen ‘Batman' , gyda rhai’n taeru mai ei sgoriwr, Shirley Walker, gyfansoddodd y rhan fwyaf o’r gerddoriaeth. ‘Doedd hyn ddim yn wir, daeth yn amlwg mai cenfigen oedd tu cefn i’r peth, gan fod rhai cyfansoddwyr yn flin bod rhywun heb addysg gerddorol ffurfiol wedi bod mor llwyddiannus.)
Yn naturiol, mae sefyllfa’r sgoriwr yn gallu bod yn wahannol mewn gwahannol amgylchiadau; bydd rhai cyfansoddwyr yn dod â 'midi score' iddo weithio arno. Gall hyn fod yn gymhleth, gan ddibynnu ar y cyfan ar mor llwyddiannus fu’r cyfansoddwr yn cwanteiddio’r cynnwys (er mwyn ei wneud yn fwy eglur) a pha mor fanwl yw’r offerynniaeth. (Mae ‘midi-sketches’ Hans Zimmer a John Ottman, er enghraifft, yn anhygoel o glir a manwl).
Bydd cyfansoddwyr eraill yn cynhyrchu braslun piano (piano sketch), ac yna’n mwynhau gêm o ping-pong cerddorol gyda’r sgoriwr, gan daflu syniadau’n ôl ac ymlaen hyd nes bod pawb yn fodlon - ‘dyw hyn ddim yn ddelfrydol pan fo amser yn brin).
Yn drydydd, o dro i dro, ceir hunllef gwaethaf unrhyw sgoriwr, sef gorfod sgorio o 'take down' (‘rwy’n ddiolchgar iawn mai dim ond unwaith y bu raid i mi wneud hyn ); gyda hwn, am ba bynnag reswm y bo, unig ffynhonnell y gerddoriaeth yw recordiad midi - dim braslun, dim sgôr, ond y sain yn unig. Mae problemau a pheryglon sefyllfa fel hyn yn enbyd - byddai’r rhestr yn rhy hir i’w gofnodi - digon yw dweud bod hon yn sefyllfa i’w hosgoi os yw’n bosibl yn y byd, ond ei bod weithiau, o herwydd amgylchiadau anffodus, yn anochel.
Beth bynnag a fo’r dull o gynhyrchi’r sgôr terfynnol, delfryd uchaf y sgoriwr yw bod yn hollol ffyddlon i amcanion y cyfansoddwr, eu deall, a’u parchu beth bynnag y bônt.
Credaf mai’r deffiniad byr gorau o rôl y sgoriwr yw hwn gan Arthur Morton (prif gynorthwywr Jerry Goldsmith' am dros 30 mlynedd):
"I take the music from the little paper and put it on the big paper".
Efallai bod hwn yn ddisgrifiad ychydig rhy syml o waith cymhleth, ond yn y bôn, mae’n ffitio i’r dim.
Leigh Phillips
Y British Composer Awards 2007
Cystedlir am y gwobrau yma mewn deuddeg categori. Dyfernir pob gwobr am ddarn sylweddol o gerddoriaeth, ac mae’n rhaid i bob darn gael ei yrru i mewn gan rywun heblaw’r cyfansoddwr, hynny yw, bydd pob darn eisoes wedi bod allan o flaen y cyhoedd.’Roedd hyn yn ffactor newydd a phwysig pan sefydlwyd y Gwobrau ym 2003 gan y British Academy of Composers & Songwriters, ar y cyd gyda’r Performing Right Society a BBC Radio 3 (yn 2007, aeth y gystadleuaeth yn ryngwladol am y tro cyntaf). Mae’r deuddeg categori’n cynnwys cerddoriaeth glasurol fodern o bob math, o ddarnau i’r llwyfan i gerdd litwrgaidd a cherddoriaeth gymunedol, gan gynnwys Gwobr Gwrandawyr Radio 3. Ennillwyd hwn eleni gan ein haelod ni, Guto Puw, am ei Gonsierto Obo.
Cafodd y pob un o’r darnau eisoes eu perfformiad cyntaf, hynny gan berfformwyr proffesiynol, ac ar y cyfan, ‘roeddynt wedi eu comisiynu. Dim byd o’i le ar hynny, ond - trawyd fi gan anhawster llawer ohonynt i’w canu neu i’w chwarae, heb fod yr anhawster hwnnw ynddo’i hyn yn arwain at ddarn mwy cerddorol, ond yn hytrach at berfformiad llwyddiannus o ddarn annodd. Beth yw gwerth cerddorol y fath broses? Gobeithio bydd cyfansoddwyr y darnau hyn yn maddeu i mi am ofyn - oes raid i gerddoriaeth gyfoes fod mor ddieflig o annodd trwy’r amser?
I‘r gwrthwyneb, wrth wrando ar ddarn buddugol Tariq O’Regan yn y categori litwrgaidd, Threshold of Night, trewir y gwrandawr yn gyntaf gan hud a phwer y gerddoriaeth, a dim ond yn ail gan anhawster, os hynny hefyd, ei pherfformio.
Sut bynnag am hynny, cynhaliwyd yr holl brosiect gyda gofal a chwrteisi. ‘Roedd y dyddiau panel wedi eu trefnu’n ardderchog, gyda thê a choffi, a phob help, ar gael trwy’r dydd.
Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn Llundain, yn y Glaziers Hall, ar lan yr afon Thames, dan gysgod London Bridge. Llywyddwyd gyda’i hawdurdod a’i hasbri arbennig ei hunan gan Errolyn Wallen (a dderbyniodd MBE yn ddiweddar am wasanaeth i gerddoriaeth), a chlywsom ddetholiad o’r darn buddugol ym mhob categori. ‘Roedd cyngerdd yn dilyn y seremoni, ond yn anffodus, oherwydd amserion trenau o orsaf Llundain Paddington i Gaerdydd, bu raid i mi ei throi hi am adre.
Enid Luff
Dydd Cerddoriaeth a Ffilm yn The Point, Bae Caerdydd
Trefnwyd y Dydd gan y Welsh Music Foundation (www.welshmusicfoundation.com - gwefan gwerth ymweld â hi) - yn groesawgar, gyda strwythyr clir, a chyda digon o gyfle i bawb ymgyfarfod a chymysgu a thrafod. ‘Roedd pobl yno o bob maes proffesiynol, ond gan fwyaf wrth gwrs o fyd ffilm a’r cyfryngau, ac o bob rhan o Gymru.
Wedi cofrestru a chael coffi, cychwynwyd gyda sgwrs gan yr ymgynghorydd Ivan Chandler ar hawlfraint cerddorol, a thrwyddedu cerddoriaeth ar gyfer ffilm, maes llawn peryglon ac anhawsterau i gyfansoddwr dibrofiad. Arweiniodd hyn yn uniongyrchol at gynnwys yr awr nesaf, sef sesiwn panel gyda’r cynhyrchydd ffilm Gethin Scourfield, Hywel Evans o EMI, Matt Biffa, arolygwr cerddoriaeth gydag Air Edel, John Hywel Morris o’r MCPS/PRS Alliance, a’n haelod adnabyddus ninnau, John Hardy. Rhedai’r un thema drwy gydol y sesiwn, yn pwysleisio rhan mor hanfodol oedd hawlfraint i’r holl broses o ddod â ffilm a cherddoriaeth ynghyd.
Yn y prynhawn, cafwyd cyfle i nifer o gynhyrchwyr ffilm gyfweld â chyfansoddwyr oedd eisoes wedi gyrru eu henwau i mewn, am ddeng munud bob un - cwtogwyd hyn at bum munud, oherwydd cymaint oedd y galw. Agorwyd y bar wedyn am bedwar o’r gloch, i bawb gael rhwydweithio unwaith eto cyn ei throi hi am adre. Diolch, Welsh Music Foundation, am un o’r dyddiau prysuraf a mwyaf diddorol a gefais ers talwm!
Enid Luff
Brian Noyes
Cafodd Brian ei dderbyn i “restr fer” yr spnm am 2007 - 2010, gyda’i ddarn
cerddorfaol Points
of Decision - symphonic metamorphoses on John Clare, a gaiff berfformiad gan
GBBC ym Manceinion ym mis Chwefror (gweler y Rhestrau)
Am ragor o wybdaeth, cliciwch ar:
http://www.spnm.org.uk/?page=shortlist/composer.html&id=283
Meddai Brian:
Mae fy narn - "Points of Decision" - yn 25 munud o hyd, gyda’r is-deitl
‘Symphonic Metamorphoses after John Clare'. Ei fan cychwyn yw’r foment pan
benderfynnodd John Clare, y
“bardd gwledig” o Swydd Northampton, gerdded i ffwrdd o’r gwallgofdy yng
Nghoedwig Epping ble cafodd ei garcharu am ddim heblaw “gormodedd o farddoni”,
yn ôl y meddygon.Traethawd simffonig yw’r darn hwn, yn seiliedig ar naratif
thema gerddorol a’i datblygiad. Bydd y perfformiad a’r recordiad yn cymryd
lle ar y cyd gyda’r spnm a
Cherddorfa Ffilarmonig y BBC, mewn cyngerdd gwadd yn Studio 7 , New Broadcasting
House, BBC Manceinion (gweler y Rhestrau).
Gan fy mod n’awr ar restr yr spnm o 2007 - 2010, mae hyn yn rhan o hyrwyddo fy ngwaith . Bydd Cantemus Chamber Choir, Cymru yn perfformio darn corawl byr gennyf, Mirembe, Oscar (gweler y Rhestrau). Cyfansoddwyd y darn yr hydref diwethaf er cof am fyfyriwr corawl, Oscar Ahumuza, a fu farw yn drasig mewn damwain yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. ‘Roedd yn aelod o’m côr myfyrwyr, yr Atlantic College Tour Choir, ym 2005.
Michael Charnell-White
Fe glywyd darn buddugol Michael, Ffantasia ar y dôn emyn 'Groeswen' , i organ,
mewn cyngerdd yng Nghapel Bethania Chapel, yr Wyddgrug, ddydd Gwener Ionawr 11,
2008.
Oddiwrth Stephen Goss:
Efallai y carech wybod bod fy CD newydd, Frozen
Music, newydd ddod allan. Bydd ar gael drwy
Amazon ac iTunes rywdro mis Ionawr, ond gallwch ei gael ’nawr (yn
rhatach) o wefan Cadenza Music.
www.cadenza-music.com/Scripts/prodView.asp?idproduct=134
Manylion llawn yn www.stephengoss.net/home.html
Dafydd Bullock
Bydd y Ni Ensemble o’r Cyfandir, yn perfformio Chica
Latina, gan Dafydd, mewn cyngerdd yn cynnwys darnau gan Michael Berkeley,
Dafydd Bullock, a Ben Ellin, (gweler y Rhestrau). Mae’r Ensemble hwn wedi
ennill sawl gwobr eisoes. Mae ei aelodau’n hannu o gerddorfeydd yn Saarbrucken,
Luxemburg and Brussels. Byddant yn ymweld am y tro cyntaf â Choleg Brenhinol
Cerdd a Drama Cymru.
Hilary Tann
Bydd perfformiad o Gonsierto Obo a Llinynnau Hilary, Shakkei,
gafodd ei berfformiad cyntaf yng Ngwyl Llanandras, 2007, mis Ionawr 2008 yn
Nulyn (gweler y Rhestrau). Y Cyfansoddwr
Gwyddelig Jane O’Leary fydd
prif gyfansoddwr yr achlysur.
Mervyn Burtch
Ym mis Ebrill, 2008, perfformir
fy narn 'Elegy for Arthur' , i Gôr, Ffidil, a Thelyn, yn rhaglen
agoriadol Cystadleuaeth Ffidil Ryngwladol Menuhin (gweler y Rhestrau).
Bydd fy opera i blant, 'Jason and Hanna', yn cael ei pherfformio ym mis
Ebrill yn Winnipeg,
Canada, ac ym mis Mehefin gan y Manitoba Opera.
• MERCHER (27-02-08)
10am-12pm Neuadd Powis
Gweithdy Jas ar
gyfer disgyblion ysgolion Glancegin a Hirael, dan arweiniad Paula Gardiner
8pm
Neuadd Powis
Jas gyda Paula Gardiner (bas dwbl) Lee
Goodall (sacs) Mark O’Connor (drymiau) yn
perfformio eu trefniannau jas dyfeisgar a’u cyfansoddiadau gwreiddiol mewn
awyrgylch hamddenol.
• IAU (28-02-08)
1pm Neuadd Powis
Cyngerdd
Electroacwstig
sy’n arddangos darnau electronig gan fyfyrwyr o Brifysgolion Bangor a
Huddersfield.
8pm Neuadd Powis
Portread o Matthew Adkins
ElectroacwstigCYMRU
yn cynnwys cerddoriaeth y cyfansoddwr electroacwstig Matthew Adkins, ei
ddisgyblion a’i gydoeswyr.
• GWENER (29-02-08)
10am -12pm Neuadd yr Ysgol Cerddoriaeth, PB
Gweithdy Cyfansoddi gyda
Huw Watkins (piano) ac Alexandra Wood (ffidil)
2pm Neuadd yr Ysgol Cerddoriaeth, PB
Huw Watkins mewn sgwrs gyda Geraint
Lewis.
8pm Neuadd Powis
Huw Watkins (piano)
Alexandra Wood (ffidil)
datganiad sy’n cofleidio gweithiau gan gyfansoddwyr o’r ugeinfed ganrif
hyd y presennol, gan gynnwys Huw Watkins, Webern, Britten, Goehr, MacMillan, Puw
a Whitmarsh.
• SADWRN (1-03-08)
10am-12pm Neuadd Pritchard-Jones
Dosbarth Meistr gyda
Jeremy Huw Williams (bariton) ac
aelodau o Gerddorfa Siambr Cymru
2pm
Neuadd Powis
John Cage -
Imaginary Landscapes Rhif 4 ar gyfer
12 radio
a berfformir gan fyfyrwyr Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, dan arweiniad
Guto Pryderi Puw. Seiliwyd y darn anarferol hwn ar ddulliau gweithredu siwans
Cage, lle ceir cymysgedd o ‘seiniau gwyn’ a darllediadau ar hap, sy’n creu
haenau cynnil o swˆn a distawrwydd, sy’n gwbl ddibynnol ar y darllediadau a
dderbynnir ar y pryd.
8pm Neuadd Prichard-Jones
Cyngerdd Dydd Gwˆyl Ddewi
Jeremy Huw Williams (bariton)
a Cherddorfa Siambr Cymru (arweinydd:
Anthony Hose)
yn perfformio rhalgen gan gyfansoddwyr Cymreig, gan gynnwys Hoddinott, Mathias,
Metcalf, Mivall a Philips.
Tocynnau:
Theatr Gwynedd (01248) 351708
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Ysgol Cerddoriaeth
Prifysgol Bangor
Ffordd y Coleg
Bangor
Gwynedd
LL57 2DG
01248 38218
oddiwrth Leigh Phillips:
Ychydig o newyddion yn fyr:
Ar benwythnos Hydref 28, perfformiwyd tri o’m trefniadau mewn amryw neuaddau. Yn y Bridgewater Hall, Manceinion, chwareuodd Cerddorfa’r Halle drefniadau newydd o gerddoriaeth o’r ddau ffilm Hollowman a Medicine Man, fel rhan o raglen eu Weird Science Concert. Yn y Warner Grand Theatre, California, chwareuodd y Golden State Pops Orchestra a chôr o 80 fy nhrefniant o Omen III: The Final Conflict, sgôr ganJerry Goldsmith, i gychwyn eu Halloween Fright Night Concert. Hefyd, rhyddhawyd sgôr cyfan 'The Legend Trip' gan gwmni filmmusicdownloads, i’w gael yn bresennol yn iTunes.
Yn ychwanegol, gorffennais yn ddiweddar waith cyfansoddiadol ar y cyd ar raglen ddogfen Sean Penn,War Made Easy, a byddaf yn cychwyn gwaith ym mis Ionawr ar sgôr i ffilm arswyd Americanaidd dan y teitl 'Still Life', yn ogystal â chynhyrchu rhagor o drefniadau i Gerddorfa’r Halle.
John Hardy
Mae cerddorieath gan John i’w chlywed yn bresennol mewn sawl cynhyrchiad. Yn fuan:Beauty and the Beast. Brysiwch i weld Beauty and the Beast yn Theatr y Sherman, ymlaen hyd Ionawr 12 yng Nghaerdydd. Mae’r theatr wedi bod yn llawn ers mis Tachwedd. Ysgrifennwyd gan Charles Way, cyfarwyddwr David Bond, cerddoriaeth gan John Hardy Music, noson hudol!
Y Pris
- drama gyfres byth-gofiadwy am Mafia cyffuriau yng Nghymru, llawn drama a chymeriadau lliwgar. Gwyliwch ar S4C bob dydd Merdher am 21:30 a dydd Sul am 22:20.
Carrlands
- cynhyrchiad rhynggyfryngol cyfareddol ar y cyd gan John Hardy Music a Mike Pearson. Cyfres o gyfansoddiadau gwreiddiol yn cyfuno adrodd, cerdd ac effeithiau, ysbrydolwyd gan dri man arbennig yng ngogledd Lincolnshire. Gellir lawrlwytho Carrlands yn ddidâl yn www.carrlands.org.uk, yn 12 ffeil MP3. Gwrandewch gartre, neu ewch i’r wefan, a gwrando a chyrfrannu yn y ffurf newydd hwn o befformaid ar y wê. Cadwch lygad ar siop ar-lein John Hardy Music, ble bydd CDs o’r gweithoedd clywedol ar gael am gôst isel iawn! Mwy o newyddion am John yn newsletter@johnhardymusic.net .
Women in Jazz
Mae’n bleser mawr gan Women in Jazz allu gyhoeddi iddynt dderbyn arian gan Gronfa Treftadaeth y Loteri i’w cynorthwyo i symud i adeilad mwy yn Abertawe, fydd â mynediad i’r anabl.
(Gadewir y llythyr hwn yn yr iaith wreiddiol er mwyn cadw idiom wreiddiol ei awdur).
Dear Editor,
BBC BRITISH COMPOSERS AWARD 2000
I tuned in to the BBC British Composers Awards programme on Radio 3 this evening (Dec 6th, 2007) to be greeted to little more than a fair share of safe self serving musical fare, best described as contemporary music in recycled clothes, over-dressed as new, as customary befits the audio comfort zone at R3.
Music, especially music purporting to be new music must not only be heard, but listened to, since these functions are by no means mutually compatible. What I heard time and again in piece after piece was reiterating shadows of Bertold Brecht, accompanied by smudges of Josquin, Purcell, Stravinsky, Sibelius, Boulez, Penderecki to name but a few composers in shadow that leapt at my ears. But there the reference both starts and stops since this was basically for discerning ears pastiche masterly disguised by faultless eclectic technical prowess that produced a finite range of watered down music styles - versions of what has been done better and bigger before, yet here the results were derivative, derisory, trite, marginally novel for the uninitiated marketplace but with a scarcity of surprises, depth or real substance for musically educated listeners, who deserve better.
I was soon asking: if this broadcast is the very British 21st Century music, where have we gone wrong?
Then some very wise fellow trumped up ...about masses of young people who don’t know what music is. What I heard was neo-stylised music nostalgia engineered by a vested interest protectionist establishment with its vast investment in the music industry. The industrial take over of music, as in the commercial hijacking of the creative arts in general, must be kept afloat lest it sink into the depth of oblivion (shorn of the pretence that it is something new). That perniciously denies the infinitive creative imagination of computer music technology. Sonic art is ignored and left to fester in the periphery of cultural reality, awaiting its ‘Mozart’ of the music computer, who may well be already here, but we will never hear the music in the current philistine environment of ignorant discriminatory prejudice against sound technology and electronic sonic art music – will we?
May I ask the panel of anonymous judges what reason explains the need of anonymity? What were your your starting and cut-off points? Does the listening history of the judges match that of R3 listeners? Should it?
Let’s face facts and stop acting like overprotected children. The music broadcast this evening by BBC R3 tells us more about what is wrong with new music, and the musical establishment itself should jettison this titanic ruse by an arrogant mindset, as the sands of the past leave music beached with the debris that has outlived its capacity to create new sound worlds which engage the creative and collective public imagination, as only new music tools technology can.
Surely it’s time to face musical facts: acoustically based contemporary music is dead and done better and bigger before, so what is the point of flogging it to death for what, in the passage of time, are inferior works? BBC R3 should be ashamed of proffering a meaningless subterfuge.
Where were the rich and plentiful works by sonic artists under a derisory technology banner?
Composers should not only have their work heard, but also encouraged to develop pioneering and challenging new music with invigorating new tools available from the evolving computer which can only come from a serious and vociferously vibrant cutting edge avant-garde? Today’s composers are technical masters, but music is more than technique, a new vision of themselves and the world in our time without fear or favour; who reflect change as we awaken undaunted and unafraid of the uncertain future and realise:
the act of creation which binds all people to each other, the dead to the living and the living to the unborn.’ [ J. Conrad, Act of Creation ]
PS Methinks perhaps it’s time for a new music burning festival.
David Lloyd-Howells
[Gyrrwch ateb i hwn, rywun? - Gol.]
| Ion 20 08, 6yh | Dafydd Bullock: Magnificat and Nunc Dimittis yn ystod yr Hwyrol Weddi yn Eglwys yr |
| Ion 29 08, 1-05yp |
Hilary Tann: Shakkei (consierto i obo a llinynnau), yn y National Concert Hall, Dulyn. RTE National Symphony Orchestra. |
| Chwef 1 08 |
Dafydd Bullock: Chica Latina, yn Oriel Weston, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ni Ensemble (Pumawd Prês).Ticedi £4, £2. |
| Chwef 10 08, 7-30yh |
Graham Williams: A Figure within a Landscape, i Obo a 7 offeryn chwyth, yn y Jackson’s Lane Theatre, Llundain. Pumawd Chwyth Octanphonie. Cyngerdd Music Past and Present. |
| Chwef 19 08, 7-30yh |
Brian Noyes: Points of Decision - Symphonic Metamorphoses after John Clare yn Studio 7, New Broadcasting House, Manchester. Cerddorfa Ffilharmonig y BBC, arweinydd James Macmillan. |
| Chwef 21 08, 7.30yh |
Rhian Samuel: The River , i soprano, obo baroc, harpsicord a fiol bâs (y geiriau gan Anne Stevenson), premiere, yn Eglwys Santes Fair, Walthamstow, Llundain E17. Cyngerdd yn y gyfres Music in the Village. |
| Maw 7 08, 1-05yp |
Rhian Samuel: Dance of the Curlews i ddeuawd telyn, premiere. RAM Harp Ensemble, Duke’s Hall, Royal Academy of Music, Llundain. |
| Maw 15th 08, 7-30yh |
Brian Noyes: Mirembe, Oscar yn Neuadd Bradenstoke, Castell Sain Dunwyd, Llanilltyd Fawr, Vale of Glamorgan. Côr Cantemus, arweinydd Robert Court. |
|
Maw
22nd 08, 7.30 yh |
Rhian Samuel: Emerging (lightly), i fiola ac ensemble, premiere. Mobius (ffliwte, clarinet, telyn a phedwarawd llinynnol). Neuadd Wigmore, Llundain |
| Ebr 11 08, 7-30yh |
Mervyn Burtch: Elegy for Arthur, i Gôr, Ffidil a thelyn, yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Cyngerdd agoriadol Cystadleuaeth Ffidil Rhyngwladol Menuhin. Catrin Finch, telyn, Maxim Vengerov, ffidil, Côr Serendipity. |
gwefannau aelodau
Dafydd Bullock - www.bullockmusic.info/
Paul Carr - www.kendormusic.com/composer/carr.htm
Max Charles Davies - www.maxcharlesdavies.com
Kenneth Gange - www.kenneth.gangecomposersalliance.com
Paula Gardiner - www.paulagardiner.co.uk
Gareth Glyn - http://gglyn.tripod.com
Stephen Goss - www.surrey.ac.uk/Music/Who/Goss.html
and www.cadenza-music.com
John Hardy - www.johnhardymusic.com
Brian Hughes - www.brianhughes.uk.com
Meuryn Hughes - www.aureus.co.uk
Malcolm Jones www.http://uk.music-jobs.com/cv/maljomusic
Andrew Lewis www.AndrewLewis.orgl
David Lloyd-Howells - www.david-lloyd-howells.org.uk
Owain Llwyd - www.owainllwyd.com
Enid Luff - www.primaveramusic.com
and www.impulse-music.co.uk/primavera.htm
John Metcalf - www.johnmetcalf.co.uk
Christopher Painter - www.christopherpainter.co.uk/index2.html
Dan Phelps - www.compositiontoday.com/danphelps
Leigh Phillips - www.reel-music.co.uk
Lynne Plowman www.lynneplowman.co.uk
Peter Reynolds - www.musicnow.co.uk/composers/reynolds.html
Michael Robinson - www.michaelrobinson.ndirect.co.uk
Rhian Samuel - http://www.stainer.co.uk/samuel.html
and http://www.city.ac.uk/music/staff/rsamuel.html
Gillian Stevens - www.composer.co.uk/composers/stevens.html
Hilary Tann - www.union.edu/PUBLIC/PARTDEPT/TANNH
Ceiri Torjussen - www.ceiri.com/
Jack White - www.whitehillmusic.com/
Alan Edward Williams - www.sibeliusmusic.com
Jack White - www.whitehillmusic.com/
John Williamson - www.impulse-music.co.uk/williamson.htm
Jennifer Wilson - www.jazzwales.co.uk/wja
and www.blackhistorymap.com
Andrew Wilson-Dickson - www.wilson-dickson.co.uk
Cyngor Celfyddydau Cymru
Mae cynlluniau newydd CCC ar gael nawr. Ceir gwybodaeth gyffredinol ar eu gwefan. Os am ganllawiau a ffurflenni, cysylltwch ag unrhyw swyddfa (gweler isod).
Swyddfa Caerdydd: 9 Museum Place Caerdydd CFIO 3NX
Tel: 029 2037 6500
Facs:029 2022 1447
Minicom: 029 2039 0027
Swyddfa Bae Colwyn: 36 Prince’s Drive Bae Colwyn LL29 8LA
Tel: 01492 533440
Facs: 01492 533677
Minicom: 01492 532288
Swyddfa Caerfyrddin: 6 Gardd Llydaw Jackson Lane Caerfyrddin SA3I 1QD
Tel:01267 234248
Facs: 01267 233084
e-bost: information@ccc-acw.org.uk
Gwefan: www.ccc-acw.org.uk
gwefannau o ddiddordeb
www.welshmusicfoundation.com (yn cynnwys cylchgrawn honk)
www.welshmusic.org.uk
www.crwth.org.uk
www.arts4cardiff.co.uk
www.impulse-music.co.uk
www.composers-uk.com
www.composers21.com (Living
Composers Project on the Internet) database of information on contemporary
composers. E-mail Dan Albertson at dalbertson@nupedia.com
www.britishacademy.com
www.prsf.com
www.musicweb.uk.net
www.jazzuk.com
www.jazzreview.com
www.pynci.tv
www.rhapsoarts.com/iscm/pe.html
www.e-qualitymusic.com
www.spnm.org.uk
www.bmr.org (British Music Rights)
www.visitingarts.org.uk
www.cultural-enterprise.com/news/news.html
www.soundinventors.org.uk
www.tycerdd.org
cyfeiriadau defnyddiol
Cyngor Celfyddydau Cymru (gweler uchod)
Ty Cerdd - Music Centre Wales, yn cynnwys:
Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru/Welsh Amateur Music Federation
Canolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru/Welsh Music Information Centre
Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru/National Youth Arts Wales
Ty Cerdd - Music Centre Wales,
Canolfan Mileniwm Cymru,
Plas Bute,
Caerdydd CF10 5AL
T: 029 2063 5640
Ff: 029 2063 5641
E: enquiries@tycerdd.org
Keith Griffin, director Keith.griffin@tycerdd.info
WAMF
Chris Sharpe (ymholiadau, ceisiadau, ayyb) chris.sharpe@tycerdd.info
Alexandria James (y llyfrgell, NYAW, perfformiadau cynedd y seindorf prês alex.james@tycerdd.info
NYAW (WAMF)
Matthew Thistlewood matthew.thistlewood@tycerdd.info
WMIC
Ruth Leggett(rheolwraig) ruth.leggett@tycerdd.info
Charlotte Griffin charlotte.griffin@tycerdd.info
Y STIWDIO RECORDIO
James Clarke (technegwr recordio) james.clarke@tycerdd.info
GWEITHDAI A PHERFFORMIADAU
Rhiannon McLean rhiannon.mclean@tycerdd.info
British Academy of Composers and Songwriters, British Music House, 26 Berners Street, London W1T 3LR tel: 020 7636 292 fax: 020 7636 2212
web: www.britishacademy.com
The Performing Right Society, 29-33 Berners Street, London SW1P 4AA
BAFTA Cymru, Chapter Arts Centre, Market Street, Canton, Cardiff CF5
1QE
tel: 029 2022 3898, e-mail post@bafta-cymru.org. uk
WAMF, Ty Cerdd, Wales Millennium Centre, Bute Place, Cardiff Bay, CF10
5AL Tel 029 2063 5640
Canolfan Hysbysrwydd Cerddoriaeth Cymru, Ty Cerdd, Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL Tel 029 2063 5642
Welsh Music Guild/Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru 33, Southminster Road, Penylan, Cardiff CF 029 2049 1585 e-mail: guildinfo@ntlworld.com
Incorporated Society of Musicians, 10, Stratford Place, London W1E 3YZ Sibelius 7 Support Services (The Data Store) new number 0208 460 6537
Women in Jazz, Queen’s Buildings, Cambrian Place, Swansea SA1 1TW enquiries@womeninjazzswansea.org.uk , www.womeninjazzswansea.org.uk , tel: 01792 456666
Cwmnïau recordio
Cwmni Recordio Fflach, Llys y Coed, Heol Dinbych y Pysgod, Cardigan, Ceredigion, SA43 3AH, Tel: (01239) 614691, Fax: (01239) 614680
Cwmni Recordio Sain, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd, LL54 2YQ, Tel: (01286) 831111, gwefan: www.sain.wales.com
Red Kite Records (Martin Levan), Cwmargenau, Llanwrda, Carmarthenshire SA19 8AP Tel: 01550 722001 gwefan: www.redkiterecords.com
Cadeirydd: Andrew Wilson-Dickson, cyfansoddwr, andrew.wd@cc-cw.org
Ysgrifennydd: Bill Connor, cyfansoddwr, billmus@tiscali.co.uk
Gweinyddydd: Jon Petrie, jon@petriepublications.com
Trysoryddr: Ian Lawson, cyfansoddwr, ian.lawson@cc-cw.org
Eilir Owen-Griffiths, composer, e.griffiths@trinity-cm.ac.uk
Guto Puw, composer, guto.puw@btinternet.com
Peter Reynolds, composer, Director, PM Ensemble, peter.reynolds@pjr.demon.co.uk
Gareth Glyn, composer, gareth.glyn@toucansurf.com
Enid Luff, composer, enid.luff@googlemail.com
Cyfetholedig:
Tim Raymond, cyfansoddwr, Pennaeth Cyfansoddi, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru,
RaymondTC@rwcmd.ac.uk
Gwefeistr: Barbara Kopar: barbara.kopar@cc-cw.org
Gwylwyr:
Ruth Leggett (Arolygydd, Welsh Music Information Centre) ruth@tycerdd.org
Keith Griffin (Arolygydd, Ty Cerdd), keith@tycerdd.org