Ceiri Torjussen

Ganwyd Ceiri Torjussen yng Nghaerdydd yn 1976. Mae’n siarad Cymraeg. Dechreuodd chwarae’r trwmped a’r piano’n chwech oed, a chyfansoddi o ddifrif yn ddwy ar bymtheg. Cafodd radd o Brifysgol Efrog, dan Prof. Nicola Lefanu a David Blake, a gradd uwch ar ol hynny ym Mhrifysgol Southern California, Los Angeles, gan astudio gyda Dr. Jim Hopkins a Dr. Stephen Hartke.

Mae ei ddiddordebau cerddorol yn cynnwys holl gerddoriaeth glasurol y gorllewin hyd at heddiw, ond hefyd mae ganddo hoffter arbennig tuag at jazz, a thuag at gerdd rai gwledydd eraill, er enghraifft, y gamelan yn Indonesia. Mae’n hoff o gerd glasurol India, ers iddo dreulio saith mis yno pan oedd yn bedair ar bymtheg.

Mae Ceiri wedi cyfansoddi i sawl offeryniaeth wahannol – i gerddorfa lawn, i bedwarawd llinynnol, i grðpiau siambr – caneuon, i grwpiau jazz, a cherdd electronig, a hyd yn oed i rhai gyfuniad mor anarferol ag wyth ffliwt. Mae diddordeb brwd ganddo mewn cerddoriaeth ar gyfer delweddau symudol, ac yn ddiweddar bu’n gweithio ar gerddoriaeth gerddorfaol i ffilmiau "studio", gyda’r cyfansoddwr Marco Beltrami.

Yn 1998, ennillodd Ysgoloriaeth William J. Fulbright i astudio cyfansoddi ym Mhrifysgol Southern California, UD. Gydag ysgoloriaethau ychwabegol gan Gyngor Celfyddydau Prydain Fawr, S4C, y Welsh American Foundation, ynghyd â swydd fel Athro Cynorthwyol, gallodd fynychu Prifysgol Southern California, i astudio gyda’r cyfansoddwr o fri, Stephen Hartke. Ennillodd Ceiri Medal Gyfansoddi Eisteddfod yr Urdd dair gwaith, yn ogystal a derbyn y Daily Telegraph Young Jazz Arranger’s Award. Ennillodd Medal Gyfansoddi yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1999. Daeth yn aelod o’r Orsedd yn 2000, a bu rhaglen amdano ar S4C. Yn ddiweddar ennillodd y Hans Salter Award yr USC Thornton School of Music am ei gyfansoddiadau a gwobr SCI/ASCAP (US)am ei ddarn siambr, L.A. Stories. Perfformiwyd y trydydd o’r Three Welsh Folk Song, i Biano yn y Wigmore Hall yn Chwefror 2001 gan Iwan Llewelyn Jones, i’w gael cyn hir ar CD.

Chwaraewyd ei ddarn cerddorfaol, Momentum, lawer gwaith, yn arbennig gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae comisiwn newydd i’r gerddorfa hon ar y gweill, ar gyfer Gðyl Gerdd Bro Morgannwg 2002/3. Mae hefyd am gyfansoddi darn telyn i Elinor Bennett, ar gyfer Gwyl Gerdd Gogledd Cymru, Medi 2002. Yn ogystal, mae comisiwn ar y gweill, sef can I Jeremy Huw Williams, ac un i seindorf daro, y ddau yn 2002.