 |
Cafodd
ANDREW POWELL ei addysg
yn Ysgol Coleg y Brenin, Wimbledon a Choleg y Brenin, Caergrawnt,
lle cafodd e radd Meistr mewn Cerddoriaeth. Yn yr ysgol astudiodd y
piano dan arweiniad Malcolm Troup, offerynau
taro dan arweiniad James Blades, a chyfansoddi dan arweiniad Cornelius
Cardew. Cyn iddo fe fynd i Gaergrawnt, aeth e i ddosbarthiadau
cyfansoddi gyda Stockhausen a Ligeti yn
Darmstadt. Tra'n astudio yng Nghaergrawnt, sefydlodd y grwp "electroneg
byw" "Intermodulation" gyda
Roger Smalley a Tim Souster: rhoddodd y grwp sawl perfformiad cyntaf
o weithiau gan Stockhausen, a hefyd o weithiau gan bob aelod o'r grwp.
Ei swydd broffesiynol cyntaf ar ôl iddo fe
adael Caergrawnt oedd fel unawdydd yn y "Proms": gweithiodd e
ar ôl hyn gyda sawl cerddorfa - gan mwyaf
gyda'r BBC Symphony Orchestra a'i arweinydd Pierre Boulez ac, yn ogystal, mewn grwp roc a chlasurol gyda'r offerynnwr taro meistrolgar o
Siapan Stomu Yamash'ta.
Gweithiodd
e fel trefnydd/arweinydd ar lawer o albymau gyda artistiaid
"roc" annhebyg i'w gilydd fel Cockney
Rebel a Cliff Richard, John Miles ac Al Stewart, Mick Fleetwood a Peter
Hoffman, Chris Rea ac Il
Divo: ac fel cynhyrchydd a threfnydd i ddau o albymau cyntaf
Kate Bush, a hefyd gan artistiaid fel
Chris de Burgh, Kansas ac Elaine Paige. Roedd e'n drefnydd, arweinydd a
chyd-gyfansoddwr i'r
grwp "The Alan Parsons Project" ar ei 15 o albymau. Mae e wedi
cyd-gyfansoddi caneuon gyda Al Stewart, David
Pack, Alan Parsons, Stuart Elliott a Tim Rice. Cyfansoddodd e'r
gerddoriaeth i'r
ffilmiau Ladyhawke (Michelle
Pfeiffer, cyf. Richard Donner) Rocket Gibraltar (Burt Lancaster,
cyf.
Dan
Petrie), Closed Circuit (Keith Allen, Film 4) ac mae e wedi
cyfrannu cerddoriaeth i lawer o ffilmiau a
rhaglenni teledu eraill byd-eang. Mae ei
gatalog o gerddoriaeth gyngherddol yn cynnwys gweithiau gwahanol sydd
wedi cael eu cyfansoddi i "Intermodulation"
- sef, Plasmogeny, The Old Pavilion, a Terilament.
Cafodd ei Suite for Brass
Quintet with Piano ei
gomisiynu a'i berfformio gyntaf gan "Equale Brass", gyda'r
cyfansoddwr yn chwarae'r piano ym 1986 ym
Mhrifysgol Cymru, Caerdydd. Cafodd Falstaff, i fand pres, ei gomisiynu gan Peter
Bassano, a chafodd ei berfformio gyntaf yn y "Cité de la Musique"
yn Paris ym mis Gorffennaf 1998 gan y
Grimethorpe Colliery Band yn cael ei arwain gan Bassano, a chafodd y
gwaith ei berfformio ar ôl hyn dros y Deyrnas
Unedig. Cafodd Plasmogeny
II, i utgorn, electroneg byw a thâp, ei ysgrifennu i
John Wallace, a chafodd ei berfformio gyntaf gyda fe a'r cyfansoddwr ym
Mhrifysgol Richmond, Virginia, ym mis Mai 1999, ac mae
wedi cael ei recordio ganddyn nhw ar gryno ddisc y cwmni "Deux-Elles."
Mae Within Those Radiances.... wedi cael ei gyfansoddi i'r
Wallace Collection, a chafodd ei berfformiad cyntaf ganddyn nhw ym mis
Rhagfyr 2000.
Mae
comisiynau eraill gyda fe yn cynnwys Concerto Melyn
Coch, a gomisiynwyd gan
Fand Parc a Dâr: chwaraeodd y band y
gwaith am y tro cyntaf gyda James Watson (utgorn) a Craig Roberts (arweinydd)
ym mis Mai 2001: Fish Throw Stones a ysgrifennwyd i'r LCO
yn 2002: Pied Beauty i gôr cymysg
digyfeiliant a chonsierto i utgorn, piano, offer taro a thannau.
Comisiynodd Band
Parc a Dâr hefyd Tair Cerdd Sanctaidd
i faritôn, telyn, côr meibion a band pres, gwaith a gafodd
ei berfformiad cyntaf ganddyn nhw ym mis Mehefin 2006 gyda Gareth
Rhys-Davies a Catrin Finch. Variations Towards a Theme
i ddau utgorn ac electroneg byw sydd wedi cael ei première yn
Llundain ym mis Medi 2006 gan "Bella
Tromba." Cafodd Living Stones, i gôr cymysg, pedwar utgorn,
tri thrombôn ac organ, ei gyd- gomisiynu gan
Eglwys y Santes Fair,
Abergwaun ag "Artswave", a chafodd ei berfformio gyntaf yn
Eglwys Gadeiriol Tyddewi ym mis Hydref 2007. Mae
Andrew newydd orffen gwaith i soddgrwth a thelyn, sef
Glasiad y Dydd dros Ben Dinas, i'w chwarae gan Nia Harries
a Claire Jones yn Llundain
yn mis Mawrth 2008. Ar hyn o bryd mae e'n
gweithio ar waith newydd i gerddorfa fawr, wedi ei gomisiynu gan
Christopher Warren-Green, a gwaith i biano a thâp i'w athro piano
Malcolm Troup, ac opera i blant.
CATALOG O WEITHIAU CYNGHERDDOL
| *Terilament
|
i organ electroneg a sain piano a chwyddwyd
|
| *The Old Pavilion
|
i 3 neu fwy o offer melodig
|
| *Solo Keyboard |
i organ electroneg, syntheseisydd a
pheiriant oedi tâp
|
| *Plasmogeny |
i
organ electoneg, gitâr fas, feiola a baswn
|
| §Dorian Terilament
|
i
allweddellau, gitâr fas a sacsoffon soprano
|
| §Cloudburst
|
i allweddellau, gitâr fas ac offer taro
|
| <Total
Eclipse |
i
gôr cymysg a cherddorfa fawr heb offer taro
|
| +Suite for Brass Quintet with
Piano |
|
| °Falstaff - Theme and Episodes
for Brass Band |
|
| Deaths and Entrances
|
i faritôn a phiano
|
| ‡Plasmogeny
II |
i
utgorn, electroneg byw a thâp
|
| †"Within
Those Radiances..." |
i
bumawd pres ac electroneg
byw
|
| ¹Plasmogeny
III
|
i ddau offerynnwr taro a thâp |
| ²Concerto
for Trumpet and Piano |
i utgorn, piano, gerddorfa
tannau ac
offer taro |
| ³Concerto
Melyn Coch |
i utgorn a band pres |
| Fish
Throw Stones |
i
gerddorfa tannau |
| The Shapes of Silence |
i bedwarawd tannau
|
| Pied
Beauty
|
i gôr cymysg digyfeiliant |
| Christ
Was Born on Christmas Day |
i
gôr cymysg ac organ
|
| ªVariations
Towards a Theme |
i ddau utgorn heb fudyddion ac
electroneg byw |
| ¤Tair
Cerdd Sanctaidd |
i
faritôn,
telyn, côr meibion a band pres
|
| ◙Under the Worm's
Head |
i
biano a thâp |
| ●Glasiad y Dydd
dros Ben Dinas |
i soddgrwth a thelyn
|
| ǿLiving Stones
Fanfare |
( a) i organ (b) i 4 utgorn a 3 thrombôn |
| ±Living Stones |
i gôr
cymysg, 4 utgorn, 3 thrombôn,
telyn ac organ |
|
*
ysgrifennwyd i a pherfformiwyd yn gyntaf gan Intermodulation
§
ysgrifennwyd
i
a pherfformiwyd yn gyntaf gan Stomu Yamash'ta a Come to the
Edge
< recordiwyd ar BMG gan Y Côr Philharmonia a'r Cherddorfa Philharmonia : arweinydd Andrew Powell
+ ysgrifennwyd
i a pherfformiwyd yn gyntaf gan Equale Brass
° ysgrifennwyd
i a pherfformiwyd yn gyntaf gan Peter Bassano a'r Grimethorpe
Colliery Band
‡
ysgrifennwyd
i John Wallace, perfformiwyd a recordiwyd yn gyntaf gan Wallace a Powell
†
ysgrifennwyd
i a pherfformiwyd yn gyntaf gan The Wallace Collection
¹ ysgrifennwyd
i Colin Currie a Sam Walton
² ysgrifennwyd
i John Wallace a'r Cyfansoddwr
³ ysgrifennwyd
i a pherfformiwyd yn gyntaf gan James Watson a'r Band Parc a Dàr
¶ ysgrifennwyd
i a pherfformiwyd yn gyntaf gan y
LCO
ª
perfformiwyd
yn gyntaf gan Bella Tromba a
Kirsten Cowie
¤
ysgrifennwyd
i a pherfformiwyd yn gyntaf gan y
Band Parc a Dàr, Gareth Rhys-Davies a Catrin Finch
◙ ysrifennwyd i Malcolm Troup: perfformiad
cyntaf ym mis Ebrill 2008
● ysgrifennwyd i a pherformir yn gyntaf ym
mis Mawrth 2008 gan Nia Harries a Claire Jones
+
ysgrifennwyd
i'r Eglwys Santes Fair, Abergwaun a pherfformiwyd yn cyntaf gan Hugh
Davies
± ysgrifennwyd i Artswave,
perfformiwyd yn gyntaf gan Tempus,
Pres y CBCDC, arw. Seimon Morris
|
|